Rheolwr Tîm Maethu (Tîm Cefnogi Lleoliadau a Maethu)
Dyddiad cau 31/01/2026
Cyflogwr
Monmouthshire County Council / Cyngor Sir Fynwy
Lleoliad
Sir Fynwy
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal Maeth
Rôl
Rheolwr Tîm Maethu
Disgrifiad o'r swydd
Hysbyseb Swydd
Mae Cyngor Sir Fynwy yn edrych am Reolwr Tîm Maethu profiadol a gyda chymhelliant uchel i arwain ein gwasanaeth maethu arbennig. Mae hon yn rôl
arweinydd allweddol lle byddwch yng ngofal tîm medrus, yn gyrru gwelliannau gwasanaeth ac yn cydweithio gyda phartneriaid i sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Byddwch yn goruchwylio recriwtio, asesu a chefnogi gofalwyr maeth, gan sicrhau lleoliadau ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion plant sy'n derbyn gofal. Rydym yn edrych am rywun gyda phrofiad rheoli cryf, sgiliau cyfathrebu rhagorol ac ymroddiad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Mae Sir Fynwy yn awdurdod gwledig hardd, sydd o fewn 20 munud o Gasnewydd a Chwmbrân a 40 munud o Fryste a Chaerdydd. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi buddsoddi mewn darparu gwasanaeth rhagorol ar gyfer ei ofalwyr maeth yn cynnwys gwasanaeth seicoleg clinigol a therapi neilltuol ar gyfer gofalwyr maeth a'r plant y gofalant amdanynt (BASE) a gwasanaeth cymorth dwys ar gyfer plant gydag anghenion mwy cymhleth (MyST). Os oes gennych gymhelliant uchel, yn ystyriol ac yn greadigol gyda gwerthoedd gwaith cymdeithasol cryf ac yn angerddol am faethu, rydym eisiau clywed gennych. Post Manylion
CYFLOG - GWYBODAETH BWYSIG: Byddai'r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos.
Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol):
Lleoliad: County Hall (Rhadyr - Usk), NP15 1GA, United Kingdom. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd.
Yn ystod y Tymor yn unig - Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol):
GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD: Bydd apwyntiad i'r rôl hon wedi ei eithrio o'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Children Barred List Check
ASESIAD O'R GYMRAEG: Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Cyswllt Recriwtio: Os ydych angen mwy o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â: CHARLOTTE DRURY / charlottedrury@monmouthshire.gov.uk
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr