Rheolwr Tîm (Pobl Hŷn ac Anableddau) Swydd-ddisgrifiad Am y rôl: Mae'r Rheolwr Tîm - Pobl Hŷn yn arwain tîm o fewn y Gwasanaethau i Oedolion, gan ddarparu arweinyddiaeth gref, hyrwyddo cynllunio gofal a chymorth sy'n seiliedig ar gryfder, a sicrhau'r gwerth gorau wrth ddarparu gwasanaethau. Mae cyfrifoldebau'n cynnwys rheoli staff, goruchwylio asesiadau ac adolygiadau, monitro perfformiad tîm,
ymdrin â chwynion, cydweithio ag asiantaethau partner, a sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a pholisi. Mae'r rôl yn gofyn am brofiad sylweddol yn y gwasanaethau i oedolion, goruchwylio staff, diogelu a rheoli perfformiad, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu, sefydliadol ac arweinyddiaeth cryf. Amdanoch chi: Mae'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rôl Rheolwr Tîn yn cynnwys: Galluoedd arweinyddiaeth a rheoli staff cadarn Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol (ysgrifenedig a llafar) Y gallu i weithio'n annibynnol ac o dan bwysau Profiad o oruchwylio a bod yn rheolwr llinell i staff Gwybodaeth am ddeddfwriaeth diogelu a rheoli gofal i oedolion Sgiliau rheoli perfformiad ac ariannol Y gallu i gadeirio cyfarfodydd cymhleth a datblygu cynlluniau busnes Cymhwysedd wrth ddefnyddio technoleg a chronfeydd data ar gyfer monitro arferion a pherfformiad Sgiliau dadansoddol ar gyfer sicrhau ansawdd a gwella gwasanaethau Y gallu i gydweithio ag asiantaethau partner Ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth, a datblygu proffesiynol parhaus Y gallu i reoli cyllidebau a chynnig coetsio/hyfforddiant i staff Hyblygrwydd i weithio o leoliadau amrywiol a thu allan i oriau arferol sgiliau yn y Gymraeg (hanfodol neu barodrwydd i ddysgu)
Eich dyletswyddau:
Fel Rheolwr Tîn, byddwch yn: Arwain a rheoli tîm gan gynnwys Dirprwy Reolwyr, Uwch Ymarferwyr, Gweithwyr Cymdeithasol a Swyddogion Cymorth Cymunedol. Hyrwyddo dull seiliedig ar gryfder o gynllunio asesiad, gofal a chymorth. Goruchwylio adolygiadau amserol o ofal a chymorth, gan sicrhau'r gwerth gorau am arian. Darparu arweinyddiaeth gref a datblygu sgiliau tîm sy'n canolbwyntio ar sicrhau'r cryfderau mwyaf posibl i unigolion a'r gymuned. Monitro perfformiad tîm, sicrhau ansawdd, a mynd i'r afael â meysydd i'w gwella. Ymateb i adborth cwsmeriaid ac ymchwilio i gwynion yn unol â pholisi. Rheoli cynllun busnes a gwasanaeth y tîm, gan adrodd ar gynnydd i uwch reolwyr. Cydweithio ag asiantaethau partner, gan gynnwys cydweithwyr ym maes iechyd a'r trydydd sector. Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth, polisi a gweithdrefnau. Hyrwyddo dull cadarnhaol o risg a sicrhau arfer cyfreithlon sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Goruchwylio Asesiadau Galluedd Meddyliol a phenderfyniadau Budd Gorau. Cefnogi'r gwaith o weithredu newidiadau i systemau a phrosesau i reoli'r galw am wasanaethau i bobl hŷn. Cynnal egwyddorion iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ym mhob agwedd ar y rôl Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Adam Greenow, Uwch Reolwyr, adam.greenow@powys.gov.uk neu ffoniwch 01874 612234
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr