Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Rheolwr Dirpwy Cartref Gofal
Disgrifiad o'r swydd
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol blaengar, talentog ac ymroddgar a fyddai'n gweithio'n galed i fodloni anghenion ein plant sy'n derbyn gofal?
Mae'r Tîm Sefydlogrwydd a Llwybrau angen Rheolwr Tîm deinamig a threfnus sy'n gallu ac yn barod i gefnogi gweithwyr cymdeithasol i reoli gwaith achosion cymhleth yn effeithiol a chyfrannu at ddatblygiadau yn y gwasanaeth ac arloesi.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn allweddol i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant sy'n derbyn gofal a rhai sy'n gadael gofal. Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi tîm o 9 gweithiwr cymdeithasol gydag 1 Rheolwr Tîm arall cyfwerth â llawn amser. Monitro rhwymedigaethau statudol y tîm ac annog safonau i gyflawni arfer gorau fydd prif amcanion y Rheolwyr Tîm ar y cyd â chefnogi'r tîm i gyflawni swyddogaethau statudol a rheoli llwythi achosion.
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais, mae'n rhaid i chi fod â gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster gwaith cymdeithasol cyfwerth, Tystysgrif Cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol (CQSW) neu Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol (DipSW) gydag isafswm o 3 blynedd o brofiad ar ôl dod yn gymwys a gwybodaeth dda am ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd angen i chi allu dangos profiad o oruchwylio. Byddwch yn rhannu'r swydd gyda Rheolwr Tîm profiadol sydd yn ei swydd ers peth amser.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Liz Rowlands, Rheolwr Adran - Cynllunio Gofal ( liz.rowlands@conwy.gov.uk / 01492575289)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr