Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Rheolwr Dirpwy Cartref Gofal
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G12 £50,269 - £53,460 y flwyddyn Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn chwilio am Reolwr Tîm sy'n unigolyn llawn cymhelliant ac yn angerddol dros gefnogi plant a theuluoedd a dros sicrhau bod plant yn Wrecsam yn ddiogel a bod y tîm hefyd yn datblygu ac yn tyfu. Mae'r Tîm Cymorth Teuluoedd (TCT) yn dîm gwaith cymdeithasol sy'n cefnogi plant a theuluoedd sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol Plant o dan Gynlluniau Gofal a Chymorth ac Amddiffyn Plant. Mae'r tîm yn gyfrifol am:
• Gynlluniau Gofal a Chymorth • Darparu cefnogaeth gadarn i deuluoedd a phlant, a sicrhau bod y deilliannau gorau yn cael eu cyflawni • Rheoli Cynlluniau Amddiffyn Plant • Amlinelliad o Gyfraith Gyhoeddus • Mynd ag achosion i'r gwrandawiad llys cyntaf Fel Rheolwr y Tîm, byddwch yn gyfrifol am weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol a mewnol i sicrhau gweithio cydweithredol. Byddwch yn gyfrifol am dîm staff o 15 Gweithiwr Cymdeithasol, 3 Asesydd Gofal Cymdeithasol a 3 Rheolwr Tîm Cynorthwyol. Mae aelodau ein Tîm Cymorth Teuluoedd yn anhygoel, maen nhw'n ysbrydoli syniadau gwych, yn gyrru cynlluniau newydd yn eu blaen ac yn helpu i wneud Gofal Cymdeithasol Plant yn lle gwych i weithio. Rydym yn sicrhau ein bod bob amser yn recriwtio a chadw gweithwyr tra'n dyrchafu cyfuniad amrywiol o gydweithwyr sy'n cynrychioliadol o'r gymuned rydyn ni'n ei gwasanaethu. Gyda'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn a'r uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer y dyfodol, mae'n adeg gyffrous iawn i ymuno â ni ac i fod yn rhan o'r siwrnai. Buddion ychwanegol: • Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn • Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000 • Opsiynau gweithio hyblyg a'n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles • Rhaglen sefydlu fanwl • Rhaglen Cymorth Cyflogeion Mae'r rôl hon yn cefnogi gweithio hybrid, cydbwysedd da rhwng gweithio gartref a gweithio o swyddfa. Mae'r swydd Reolwr Tîm hwn yn y Tîm Cymorth i Deuluoedd/Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Tîm Asesu ac Ymyrryd yn denu taliad cymhelliant recriwtio o £2,996 fel croeso i'r Cyngor. Mewn rhai amgylchiadau, gall taliad cymhelliant cadw ychwanegol o £2,996 hefyd fod yn berthnasol ar ben-blwydd eich apwyntiad os ydych yn parhau mewn swydd / tîm cymwys. Bydd y taliad hwn yn pro-rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser ac mae'n destun didyniadau gweithwyr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae telerau ac amodau eraill yn berthnasol. Gweler y nodyn Canllaw Taliad Recriwtio a Chadw am ragor o fanylion. Edrychwch ar ein buddion i weithwyr a fydd ar gael i chi wrth weithio yn y Cyngor os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais (Working for us | Wrexham County Borough Council). Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon. Nid ydym yn noddwr trwyddedig â'r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, felly yn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â'r rôl hon. Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, ni waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran. Mae'r Cyngor yn ymroddedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.