Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Bron Y Nant
Ydych chi eisiau gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau Oedolion ag Anableddau?
Rydym ni'n angerddol am gydweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau oedolion sydd ag anableddau corfforol, dysgu ac awtistiaeth drwy aros yn ein canolfan seibiant am gyfnodau byr. Rydym eisiau i bobl sy'n aros yn ein canolfan seibiant 'gael yr arhosiad gorau posibl' drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chartrefol iddynt sydd yn canolbwyntio ar eu hanghenion unigol.
Caiff hyn ei gyflawni trwy greu amgylchedd hapus a chefnogol sy'n darparu profiad dysgu diogel a gofalgar i'r unigolion hynny, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau personol, byw a chymdeithasol er mwyn i bobl ag anableddau gael bywyd o'r ansawdd gorau posib.
Rydym yn dymuno adeiladu tîm o staff sydd yn gallu gweithio'n rheolaidd ar sifftiau yn ystod y dydd a gyda'r nos, cysgu dros nos a gwasanaeth effro drwy'r nos a fydd yn teimlo'n rhan naturiol o'r tîm craidd.
Yr hyn y byddwch chi'n ei wneud:
- Cefnogi Oedolion ag Anableddau er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a'u cefnogi nhw tra'u bod yn aros yn y ganolfan seibiant a darparu cefnogaeth sydd yn bodloni eu hanghenion - Cynllunio a gweithredu gweithgareddau gyda'r unigolyn yn ystod ei arhosiad y byddan nhw'n eu mwynhau yn ogystal â'u helpu nhw i ddatblygu sgiliau megis sgiliau coginio, sgiliau siopa, mynd i'r dafarn neu gaffi, bod yn greadigol gyda chrefftau, nofio - Cefnogi pobl sy'n aros yn y ganolfan seibiant i fod yn aelodau gweithgar yn y gymuned - Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda theuluoedd, ffrindiau a'r rhai sy'n aros i gael seibiant i ddangos ein bod ymfalchïo yn ein gwaith - Gweithio a chyfathrebu yn rhan o dîm - Addasu eich steil o gefnogi a datblygu sgiliau i gefnogi'r bobl sy'n aros yn y ganolfan seibiant
Bydd disgwyl i chi: - Sicrhau eich bod yn hyrwyddo a gwerthfawrogi'r 'Gefnogaeth Weithredol', 'Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol' a 'Lleihau Arferion sy'n Cyfyngu' fel dull canolog o alluogi pobl i chwarae mwy o ran yn eu bywydau bob dydd; meithrin perthnasoedd cadarn gyda'r bobl o'u cwmpas nhw, datblygu sgiliau byw'n annibynnol a dod yn aelodau gweithredol o'u cymunedau drwy ddarparu gofal o ansawdd uchel. - Creu amgylchedd cartrefol, cynnes, caredig a chyfeillgar gan sicrhau bod eich holl weithredoedd yn dryloyw ac yn agored i'w trafod yn rhan o oruchwyliaeth broffesiynol yn unol â'r Codau Ymarfer Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
- Meithrin perthnasoedd proffesiynol y gellir ymddiried ynddynt gyda theuluoedd, ffrindiau a'r rhai sy'n aros i gael seibiant i'w helpu i deimlo'n ddiogel, bod pobl yn gwrando arnynt a bod eu hanghenion yn cael eu bodloni. - Datblygu eu sgiliau eu hunain i fodloni anghenion cefnogi pawb sy'n aros yn y ganolfan seibiant. - Gweithio ochr yn ochr â'r tîm craidd a theimlo'n rhan o'r tîm. - Addasu cyflymder y gefnogaeth ar adegau gwahanol o'r dydd a meddwl ar eich traed ar adegau er mwyn sicrhau bod anghenion cefnogi yn cael eu bodloni. - Cefnogi pobl gydag anghenion codi a symud yn gorfforol a gweinyddu meddyginiaeth gan ddilyn protocolau.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano gennych chi: - Meddu ar y gwerthoedd cywir yn cefnogi Oedolion ag Anableddau. - Gallu ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau er mwyn cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Gweithiwr Cefnogi Preswyl. - Ysgogiad i roi gweithgareddau diddorol ar waith a datblygu sgiliau. - Ymgymryd â hyfforddiant i ennill sgiliau i allu cefnogi pawb ag anableddau yn effeithiol, e.e. Makaton, Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, Cefnogaeth Weithgar, Meddwl sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, sgiliau hyfforddi Lefel 2 sy'n gysylltiedig ag iechyd. - Gallu bod yn greadigol ac agored eich meddwl parthed dulliau o gefnogi er mwyn i oedolion gyrraedd eu potensial. - Bod gennych natur gyfeillgar, ddibynadwy a chefnogol gydag agwedd gadarnhaol at fywyd, a gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda theuluoedd, ffrindiau a'r rhai sy'n aros i gael seibiant. - Eich bod yn wydn. Rydym i gyd yn cael diwrnodau da a rhai ddim cystal; bydd yn rhaid i chi allu aros yn ddigyffro a chefnogol. - Gallu cofnodi gwybodaeth yn gywir ac adnabod ac adrodd unrhyw feysydd o bryder
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Sonia Booth , Rheolwr Tîm
( sonia.booth@conwy.gov.uk / 01492 577604 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr