Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 968
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Comisiynu Strategol ar y Cyd
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Rhan-amser
Lleoliad: Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd I
Cyflog: £37,938 - £41,511
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £19.66 - £21.52
Oriau Contract: 16
Dewch i ymuno â'n tîm Rydym am benodi swyddog arweiniol ysbrydoledig ar gyfer ein tîm Comisiynu sydd wedi hen ennill ei blwyf.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn comisiynu ystod eang o wasanaethau gofal a chymorth gan ddarparwyr mewnol ac allanol.
Mae'r tîm Comisiynu yn gyfrifol am bob agwedd ar y gweithgarwch comisiynu sy'n ymwneud â gwasanaethau gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys Mapio Anghenion (nodi angen a datblygu modelau gwasanaeth newydd), Caffael (prynu gwasanaethau) a, Rheoli Contractau (monitro ansawdd, cost a pherfformiad darparwyr).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am swyddogaethau allweddol sy'n cyd-fynd â'r cylch comisiynu. Bydd dyletswyddau hefyd yn cynnwys rhywfaint o reolaeth llinell swyddogion cymorth.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolion sy'n angerddol am gyfeiriad Comisiynu ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn y dyfodol.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad amlwg o arwain a rheoli ac sydd â dealltwriaeth dda o Gomisiynu, Contractio a Chaffael gwasanaethau gofal a chymorth.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Jo Edwards Rheolwr Comisiynu a Chontractio Comisiynu joedwards@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 026626.pdf - 210KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 26/01/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.