Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithredwr / Gweithiwr Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Hybrid - gweithio yn Swyddfeydd Coed Pella, Swyddfeydd Ardalac yn rhannol o gartref
Ailasesiadau, i gleientiaid Gofal Cymdeithasol sy'n cael gwasanaeth gofal preswyl ac amhreswyl y codir tâl amdano. Yn ogystal â chwblhau asesiadau ariannol, mae'r rôl yn cynnwys dynodi budd-daliadau lles posibl a chyfeirio at yr Uned Hawliau Lles i gael yr incwm mwyaf bosibl i'r unigolyn ac incwm posibl i'r Awdurdod.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn swydd ariannol er nad yw hyn yn hanfodol gan y rhoddir hyfforddiant llawn. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â sgiliau rhifedd a llythrennedd rhagorol, sy'n gallu gweithio'n gywir iawn a gallu casglu a dadansoddi gwybodaeth o wahanol ffynonellau. Gyda phrofiad o ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer a gallu cyfathrebu ag oedolion diamddiffyn, yn ogystal â meithrin partneriaethau ag asiantaethau mewnol ac allanol. Mae gallu rheoli a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun yn hanfodol, yn ogystal â phrofiad o ddefnyddio technoleg gyfrifiadurol.
O ganlyniad i natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae'l hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Debbie Liddell, Rheolwr Adran ( debbie.liddell@conwy.gov.uk / 01492 577774)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr