Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Swyddog Adolygu Annibynnol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Bae Colwyn
Rydym yn un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal a dymunwn ichi ymuno â'n tîm clos, cyfeillgar i arwain a chanolbwyntio ar y gwaith o ddatblygu mentrau integredig sy'n ein galluogi i ddarparu gwasanaethau i bobl Conwy a bod o fudd i gymunedau.
Mae Tîm Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbyty o fewn Gwasanaethau Oedolion Conwy yn gofyn am Swyddog Asesu Ac Adolygu llawn amser.
Dyma gyfle cyffrous i weithio o fewn Tîm Adnoddau Cymunedol yr Bae Colwyn sydd yn dîm amlddisgyblaethol wedi'i hen sefydlu. Bydd y deiliad swydd yn gweithio gyda Phobl Hŷn a'u teuluoedd/gofalwyr a hefyd pobl wedi eu rhyddhau o'r Ysbyty yn ddiweddar. Bydd yr unigolyn y defnyddio dull cydweithredol sy'n canolbwyntio'n sylweddol ar gynllunio yn seiliedig ar ganlyniadau ac ail-alluogi.
Bydd cefnogaeth ar gael drwy oruchwyliaeth reolaidd ffurfiol a goruchwyliaeth anffurfiol o ddydd i ddydd, Adolygiadau Datblygu Personol a chyfleoedd hyfforddi gwych.
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais rhaid i chi fod â gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster gwaith cymdeithasol cyfatebol, fel DipSW. Yn ddelfrydol bydd ymgeiswyr wedi cael profiad ar ôl cymhwyso mewn gweithio gyda Phobl Hŷn, teuluoedd a gofalwyr.
Mae'n hanfodol bod deilydd y swydd yn gallu teithio drwy'r Sir yn rheolaidd, yn aml i ac o leoliadau anghysbell ar fyr rybudd.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Sarah Palmer, Rheolwr Tim ( Sarah.palmer@conwy.gov.uk / 01492 577676 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch âr rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr