Swyddog Cefnogi Busnes - Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych
Dyddiad cau 19/02/2026
Cyflogwr
Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm cefnogi busnes arloesol a deinamig Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o'r tîm cefnogi busnes Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych sy'n darparu cefnogaeth weinyddol a dadansoddol o safon uchel i'r Gwasanaeth. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n gallu darparu cymorth gweinyddol effeithlon ac effeithiol ac sy'n chwaraewr tîm cryf.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu da, sgiliau cyfathrebu da, profiad o gymwysiadau TG a phrofiad o fewnbynnu data ac adrodd yn gywir.
Byddwn yn darparu'r hyfforddiant a'r gefnogaeth angenrheidiol i chi. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon bydd angen i chi feddu ar lefel uchel o onestrwydd, gwytnwch personol, bod yn ddigynnwrf dan bwysau a rhoi sylw manwl i fanylion.
Byddwch yn llawn cymhelliant gyda'r gallu i weithio heb oruchwyliaeth a bydd gennych agwedd gadarnhaol at ddarparu a chefnogi y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Mae angen lefel uchel o gyfrinachedd oherwydd y wybodaeth sensitif y mae'r gwasanaeth yn ymdrin â hi.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Saesneg a'r Gymraeg yn hanfodol. Rydym yn annog ymgeiswyr sy'n rhugl yn y Gymraeg.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i'n Safonau'r Gymraeg. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Mark Brierley, Rheolwr Gwybodaeth a Deallusrwyd Data, 01492 577377, Mark Brierley mark.brierley2@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr