Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae yna gyfle i'r person cywir ymuno â'r tîm Hawliau Lles prysur mewn rôl newydd, gan ddarparu gwasanaeth cymorth effeithiol i'r Tîm Hawliau Lles.
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau, a all gynnwys trin galwadau, ymateb i negeseuon e-bost, trefnu apwyntiadau a diweddaru'r gronfa ddata cwsmeriaid.
Rhaid i ddeiliad y swydd fod â sgiliau TG a phrofiad o weithio gyda phecynnau TG Microsoft Office ac mae'n rhaid iddynt feddu ar arddull gyfeillgar dros y ffôn ac yn ysgrifenedig. Byddai profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur yn fanteisiol.
Bydd yr ymgeisydd cywir yn gallu codi ymwybyddiaeth o, ac annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau lles priodol, trwy helpu defnyddwyr gwasanaeth i gwblhau Gwiriadau Budd-daliadau a'u cyfeirio at wybodaeth a chyngor perthnasol.
Mae'r rôl hon wedi'i lleoli mewn swyddfa, a bydd deiliad y swydd yn gweithio yn ein swyddfa yng Nghoed Pella 5 diwrnod yr wythnos.
Mae'n hanfodol gallu cyfathrebu yn Saesneg a gallu sgwrsio'n rhwydd gyda chwsmeriaid yn Gymraeg yn hanfodol hefyd.
Wrth lenwi eich ffurflen gais, nodwch enghreifftiau fel tystiolaeth o'ch profiad.
O ganlyniad i natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
Bydd dealltwriaeth o ofal cymdeithasol o gymorth, ond gellir ei dysgu yn ystod eich amser yn y swydd.
Buddion: - Goruchwyliaeth Reolaidd gan eich Rheolwr Tîm - Mynediad i hyfforddiant drwy Ofal Cymdeithasol a rhaglenni hyfforddiant Corfforaethol, yn ogystal â hyfforddiant allanol os yw'n briodol. - Bod yn rhan o sefydliad sy'n sicrhau arferion gweithio diogel a llawn cefnogaeth, drwy bolisïau gweithwyr cadarn. - Mynediad i nifer o fuddio gweithwyr, gan gynnwys Buddion Conwy, a Ffit Conwy. - Gweithio mewn gofod swyddfa pwrpasol, sy'n agos i nifer o siopau, lleoedd bwyd o safon a choffi da!
Siaradwch â ni: Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi wybod mwy am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Ruth Barr, Rheolwr Tîm - Un Pwynt Mynediad a Hawliau Lles E-bost: ruth.barr1@conwy.gov.uk Ffôn: 01492 574668
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gynnal sgwrs syml yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r gallu i ddarllen ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr