Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Susan Layton ar 01286 678824 neu drwy e-bost: SusanLayton@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
**Hoffem gyfyngu y swydd Swyddog Cefnogi Teulu (Tadau) yma i ddynion yn unig yn defnyddio'r GGG ym mharagraff 1, adran 9 o'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Agwedd gadarnhaol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Person sydd â'r dychymyg i hyfforddi unigolion/grwpiau mewn ffordd ddiddorol.
Personoliaeth ddiplomyddol a chroesawgar.
Personoliaeth ddigynnwrf a hyblyg.
Yn fentrus, yn hyderus ac yn barod i gymryd risgiau rhesymol
Gallu i gydweithio ag amrywiaeth ac ystod eang o bobl
Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith ac i gwrdd â therfynau amser penodol.
Un sy'n gallu gweithio fel rhan o dîm.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Gradd a/neu gymhwyster proffesiynol lefel 5 o fewn y maes addysg, gwaith cymdeithasol neu iechyd/gofal.
Derbynir cymhwyster Lefel 4, a bod yr ymgeisydd yn fodlon gweithio tuag at ofynion Lefel 5.
A chymhwyster sydd yn cyfateb i lefel 3 NVQ/QCF ar gyfer gweithwyr cymorth,
neu yn fodlon gweithio tuag at y cymhwyster yma.
Dymunol Hyfforddiant mewn rhaglenni rhiantu yn seiliedig ar dystiolaeth
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu'i theuluoedd o fewn y maes gofal, addysg, gwaith cymdeithasol neu iechyd
Profiad o asesu anghenion amrywiol a chymhleth ac ymateb iddynt, gan ganolbwyntio ar adeiladu ar gryfderau a chyflwyno newid.
Profiad o gynnwys plant, pobl ifanc a'u rhieni wrth gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau.
Profiad o weithio mewn sefyllfaoedd amlasiantaethol ac o feithrin perthynas
Profiad o farchnata gwasanaeth i gynulleidfa amrywiol sy ' n cynnwys gweithwyr proffesiynol, plant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr.
Profiad o weithredu rhaglenni neu grwpiau cefnogi teulu
Dymunol Profiad o ddarparu cyngor a gwybodaeth broffesiynol i sawl cynulleidfa
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Gallu i weithio'n arloesol a chreadigol o fewn cyd-destun aml disgybledig.
Sgiliau wrth gynllunio gwaith yn effeithiol ac wrth gyrraedd targedau a chyflawni tasgau.
Ymwybyddiaeth o ACES (profiadau niweidiol yn ystod plentyndod), a'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu a gweithredu ymyraethau effeithiol.
Gwybodaeth am ddiogelu, deddfwriaeth gofal plant, a gweithdrefnau amddiffyn plant.
Y gallu i adnabod gallu rhieni i fagu plant, a'r risg a'r ffactorau amddiffynnol.
Dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn.
Y gallu i adnabod a mesur anghenion drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau.
Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol. Sgiliau cyfrifiadurol da a'r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (e.e. Word, Excel, Access, Outlook, PowerPoint)
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
Dymunol Dealltwriaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithredu cyrsiau /dosbarthiadau/ gweithgareddau a gwaith un i un yn y maes rhiantu gyda thadau gan weithio'n integredig gyda gwasanaethau amrywiol i redeg gwasanaeth pwrpasol ac o ansawdd i deuluoedd ardal Arfon a Dwyfor.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Offer cyrsiau
• Arian mân - arian gweithredu cyrsiau a gweithgareddau rhiantu
Prif ddyletswyddau • Cyfrifoldeb dros weithredu cyrsiau, dosbarthiadau, gweithgareddau a gwaith un i un i dadau yn y maes rhiantu drwy weithio'n integredig gyda gwasanaethau amrywiol i redeg gwasanaeth pwrpasol ac o ansawdd i deuluoedd.
• Cynefino â'r ystod o raglenni sydd ar gael i gefnogi tadau gan weithredu arlwyo ymyraethau gan ddefnyddio'r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd gydag anghenion y tadau.
• Cydweithio ar y Prosiect Trawsffurfio'r Blynyddoedd Cynnar, gan gefnogi'r ymyraethau a'r prosiectau penodol yn ymwneud â'r maes Tadau
• Cefnogi'r Prosiect Trawsffurfio i drawsnewid unrhyw system neu wasanaeth sydd mewn lle er budd tadau
• Gweithredu rhaglenni rhiantu drwy:
• weithio gyda tadau i gwrdd ag anghenion eu plant;
• weithio gyda tadau i gwrdd ag adnabod ein hanghenion eu hunain; alluogi tadau i ddatblygu dulliau o sut i ddelio gydag ymddygiad a materion i fywyd bob dydd plentyn; gyfathrebu'n effeithiol gyda tadau; ddarparu mynediad i wybodaeth; adnabod dulliau i wella sgiliau'r tadau.
• Gweithredu asesiadau cychwynnol effeithiol a llwyddiannus ar gyfer y gwaith cefnogi teulu.
• Ysgogi darpariaeth tadau newydd mewn cydweithrediad a phartneriaid amrywiol drwy:
• Adnabod lleoliadau addas ar gyfer rhedeg cyrsiau a gweithgareddau newydd fel gweithgareddau awyr agored a chwarae gan gynnal asesiadau risg priodol
• Cydweithio i adnabod lleoliadau gofal plant i gyd fynd gyda rhediad y cyrsiau rhiantu.
• Adnabod staff priodol a chytuno ar ymrwymiad llawn i gynnal cyrsiau neu weithgareddau; Cydweithio i adnabod tadau addas; Cydgordio'r asesiadau cychwynnol; Adnabod unrhyw rwystrau eraill e.e. trafnidiaeth.
• Mewn cydweithrediad â chydweithwyr priodol, marchnata'r gwasanaethau sydd ar gael e.e. crynhoi'r wybodaeth am y gwaith i dadau yn dymhorol.
• Cydweithio i sefydlu a chynnal systemau i fonitro'r ddarpariaeth drwy fesur effaith y rhaglenni a sicrhau systemau rheoli perfformiad effeithiol. Cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau data mewn modd amserol a thaclus a sicrhau y bodlonir yr holl ofynion ar gyfer yr holl asiantaethau allanol mewn perthynas â chynnydd a monitro rhaglenni gwaith.
• Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu'r Strategaeth Cyfranogi i sicrhau bod tadau yn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio, datblygu a chyflenwi eu gwasanaethau eu hunain.
• Mynychu a chyfrannu'n weithredol at ystod o gyfarfodydd, digwyddiadau a seminarau sy'n rhoi sylw i faterion sy'n gysylltiedig â datblygiad yn y maes cefnogi teulu er mwyn rhaeadru'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion a meddylfryd cyfredol: rhwydweithio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
• Darparu rheolaeth ofalus ar y gyllideb ac unrhyw adnoddau eraill a roddir i'r tîm e.e. gweinyddu taliadau arian mân ar gyfer rhediad effeithiol y rhaglenni.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • O bryd i bryd angen i weithio oriau anghymdeithasol
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr