Swyddog Chwarae a Datblygiad Cynnar
Dyddiad cau 20/08/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Math o gontract
- Dros dro
- Maes gofal
- Gofal plant
Disgrifiad o'r swydd
ManylionHysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Susan Layton ar 01286 678824 neu drwy ebost SusanLayton@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 20/08/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd.pdf
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Person amyneddgar sydd â'r dychymyg i hyfforddi unigolion/grwpiau mewn ffordd ddiddorol.
Personoliaeth ddiplomyddol a chroesawgar.
Personoliaeth ddigynnwrf a hyblyg.
Gallu i gydweithio ag amrywiaeth ac ystod eang o bobl
Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu'n effeithiol.
Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith ac i gwrdd â therfynau amser penodol.
Un sy'n gallu gweithio o dan bwysau, ac fel rhan o dîm.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Safon dda o addysg hyd at Lefel A neu gyfatebol a chymhwyster sydd yn cyfateb i lefel 3 NVQ/QCF ar gyfer gweithwyr cymorth, neu yn fodlon gweithio tuag at y cymhwyster yma.
Mewn amgylchiadau allweddol, oherwydd natur y swydd, bydd profiad eang a phriodol yn y maes iechyd, addysg neu gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried fel cymhwyster ychwanegol
DYMUNOL
Cymhwyster yn y maes chwarae
Cymhwyster Cefnogi Teulu
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Sgiliau trefnu da
Gallu i weithio'n effeithiol a chreadigol o fewn cyd-destun aml disgybledig.
Sgiliau cyfrifiadurol da a'r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (e.e. Word, Excel, Access, Outlook, PowerPoint).
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
Gwybodaeth gyfoes ynglŷn â deddfwriaeth sy'n berthnasol i faes plant ac yn enwedig o fewn y maes blynyddoedd cynnar, cefnogi teulu a gofal plant.
Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol.
Y gallu i adnabod a mesur anghenion drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau.
Gallu i gyfathrebu'n effeithiol, yn llafar ac yn ysgrifenedig, gyda chynulleidfa eang.
DYMUNOL
Dealltwriaeth o'r Cynlluniau Cefnogi Teulu / Blynyddoedd Cynnar / Chwarae sydd ar gael yn lleol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Profiad o'r maes chwarae a datblygiad plentyn.
Profiad o hyrwyddo'r sgiliau chwarae
Profiad o weithio'n effeithiol gydag eraill gan gynnwys plant, rhieni, staff ag asiantaethau
Profiad o redeg grwpiau neu sesiynau
Profiad o lunio adroddiadau
DYMUNOL
Profiad o ddarparu cyngor a gwybodaeth broffesiynol i sawl cynulleidfa
Profiad o asesu ac ymateb i anghenion amrywiol a chymhleth
Profiad o gynnwys plant, pobl ifanc a'u rhieni wrth gynllunio, datblygu a chyflenwi gwasanaethau.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Prif Ddyletswyddau
Amgylchiadau Arbenning

- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Gweithio fel Gweithiwr Datblygiad Cynnar a Chwarae gyda theuluoedd o fewn y cynllun Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.
- Gweithio gyda theuluoedd Dechrau'n Deg/ Teuluoedd yn Gyntaf sydd gyda plant yn dangos anghenion ychwanegol neu anghenion arbennig drwy gynnig gwasanaeth 1:1 yn y cartref neu leoliad arall .
- Arwain a chynnal sesiynau sgiliau sylfaenol, cefnogi teulu, chwarae a chyfathrebu a hamdden yn rheolaidd yn unigol neu mewn grŵp
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
- Offer
Prif Ddyletswyddau
- Cynnal sesiynau un i un gyda theuluoedd unai o fewn y cartref neu leoliadau Dechrau'n Deg gan weithredu ar gynllun strwythuredig sydd wedi ei gytuno gyda'r tîm Dechrau'n Deg/ Teuluoedd yn Gyntaf yn y paneli cyfeirio.
- Cynnig rhaglen o ymyrraeth/au gan fonitro cynnydd pob teulu a'u plant gan ysgrifennu adroddiadau rheolaidd ac adolygu cynlluniau yn aml i gyd-fynd gydag anghenion y teuluoedd.
- Cyfrifoldeb dros fynychu'r cyfarfodydd Teulu i adrodd, adolygu, monitro cynnydd, a thrafod rhaglenni unigol teuluoedd os daw gwahoddiad gan y panel.
- Trefnu a chynnal gweithgareddau chwarae, chwaraeon a gweithgareddau hamdden gan rhoi ystyriaeth i ddiddordebau a strwythur oedran y teuluoedd h.y. sesiynau Hwyl i'r Teulu.
- Gweithio o fewn gweithdrefnau Cefnogi Cynnar pan fod plentyn gydag anghenion arbennig gan ddosbarthu'r adnoddau angenrheidiol a chydlynu'r gefnogaeth sydd ar gael i'r plentyn gan gyd gysylltu gydag asiantaethau eraill
- Cynnal asesiadau trylwyr a phenodol i adnabod anghenion a chryfderau plant a chynllunio ymyraethau ar y cyd efo'r teulu i'w cefnogi i gwrdd a'r anghenion yma. Defnyddio sgiliau, hyfforddiant a phrofiad arbenigol i gefnogi rhieni a phlant fel egwyddorion ELKLAN a PORTAGE.
- Cynnig gwybodaeth i rieni am feysydd amrywiol, gan gyfeirio fel bod angen i asiantaethau eraill.
- Cydweithio gyda'r lleoliadau gofal plant i drosglwyddo plant yn effeithiol gan rhannu gwybodaeth am dargedau y cynllun chwarae unigol, a chynnig arbenigedd drwy fentora staff 1:1 newydd yn y lleoliad i weithredu cynllun yn bwrpasol i'r plentyn.
- Trefnu a chynnal gweithgareddau Sgiliau Sylfaenol fel y rhaglen Chwarae ac Iaith / Rhif a Chwarae, Sesiynau stori a chân, a sesiynau hyrwyddo defnydd o'r llyfrgell fel a nodir yn y canllaw Datblygiad Iaith Gynnar
- Cynnal grwpiau amrywiol ar y cyd gydag asiantaethau eraill fel yr Ymwelwyr Iechyd fel sesiynau chwarae a symud, sesiynau cefnogi teulu a.y.b. Cydlynu a hyrwyddo gweithgareddau Hwyl i'r Teulu cynllun Dechrau'n Deg ac Teuluoedd yn Gyntaf, gan annog a thywys rhieni i fynychu sesiynau. Ysgogi darpariaeth o grwpiau newydd mewn cydweithrediad gyda'r Uwch Weithiwr Datblygiad Gynnar a Chwarae, a phartneriaid amrywiol drwy;
- - Adnabod lleoliadau addas.(os bydd angen) i redeg sesiynau newydd gan gynnal asesiadau risg priodol fel mewn parciau, lan y môr a.y.b
- - Adnabod staff priodol a chytuno ar ymrwymiad llawn i gynnal y cyrsiau ar y cyd fel Ymwelwyr Iechyd, Mudiad Meithrin, Twf a.y.b.
- - Cydweithio i adnabod rhieni/ gofalwyr addas a marchnata'r sesiynau yn lleol gan gynnwys hysbysu Gwynedd Ni a Gyda'n Gilydd.
- - Dethol a pharatoi adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau chwarae, gan gymryd cyfrif o'r gynulleidfa drwy roi sylw i ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y rheini/ gofalwyr a'u plant.
- - Arddangos offer yn ddiogel yn y lleoliadau gan sicrhau awyrgylch addas i'r oedrannau amrywiol
- - Cadw cofnod o wariant y sesiynau gan adrodd yn ôl i'r Uwch swyddog Datblygiad Cynnar a Chwarae.
- - Casglu adborth am y grwpiau drwy holiaduron a llyfr sylwadau.
- Bod yn gyfrifol am gadw cofnod, gwybodaeth a data am bob sesiwn gan gynhyrchu dadansoddiadau ystadegol ac adroddiadau monitro a pherfformiad i'r Cydlynydd. Adrodd yn ôl i'r Tîm Uned Blynyddoedd Cynnar gan fynychu cyfarfodydd rheolaidd i drafod y baich achosion.
- Cydymffurfio gyda gweithdrefnau Diogelu Plant gan adrodd yn bwrpasol fel bo angen.
- Mynychu cyfarfodydd staff, timau a gweithgorau eraill yr Uned Blynyddoedd Cynnar fel bod angen.
- Monitro a threfnu stoc o fewn cyllideb gytunedig, catalogio adnoddau ac ymgymryd â chyfrifiadau fel y bo'n ofynnol.
- Cynnal offer arbenigol, gwirio am ansawdd/diogelwch, ymgymryd ag atgyweirio/ addasiadau arbenigol fel bod angen.
- Yn achlysurol bydd angen cynorthwyo, cydweithio a chefnogi cyd -weithiwr allweddol eraill ar y Cynllun drwy gyd rhedeg sesiynau a chyd ymweld â chartrefi buddiolwyr.
- Gweithio yn unol â strategaethau a pholisïau a fabwysiedir gan Gyngor Gwynedd
- Chwarae rhan llawn wrth i'r gwasanaeth sefydlu yr hyn sy'n bwysig i bobl Gwynedd.
- Chwarae rhan llawn wrth ddatblygu egwyddorion gweithredu'r tim ynghyd a chyfrifoldeb personol dros gadw atynt.
- Gweithredu'n hyblyg o fewn egwyddorion gweithredu'r Tim i gyflawni yr hyn sy'n bwysig i drigolion Gwynedd.
- Edrych yn barhaus am gyfleoedd i wella'r gwasanaeth gan adnabod materion sy'n rhwystro'r tim rhag cyflawni yn effeithiol ac effeithlon a gweithredu er mwyn eu datrys.
- Sicrhau fod y wybodaeth sydd ei angen er mwyn profi pa mor dda yr ydym yn cyflawni'r hyn sy'n bwysig yn cael ei gadw gan ddefnyddioi'r wybodaeth honno i wella gwasanaeth.
- Cyfranu a chymryd penderfyniadau priodol er mwyn cyflawni'n bwysig i bobl Gwynedd
- Cynorthwyo timau eraill i gyflawni'n bwysig i bobl Gwynedd
- Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni'r swyddogaethau uchel
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbenning
- Gweithio o fewn tymor ysgol yn unig gyda'r angen i weithio 15 diwrnod yn ystod gwyliau'r Haf. Bydd angen i'r swyddog yn achlysurol weithio oriau anghymdeithasol.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.