Mae gennym gyfle gwych i ymuno â thîm swyddfa deinamig, i gefnogi ein cymuned trwy sicrhau bod gwasanaethau a systemau llety â chymorth yn cael eu darparu'n briodol ac yn diwallu anghenion unigol yn effeithiol.
Gan weithio o fewn isadran Comisiynu Strategol ar y Cyd Cyngor Sir Penfro, byddwch yn gyfrifol am ddatblygu systemau a phrosesau sy'n sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol ar waith i hwyluso gwasanaethau llety â chymorth o ansawdd da.
Byddwch yn gweithio'n agos gydag unigolion, darparwyr gofal a chymorth, gweithwyr proffesiynol asesu a rheoli achosion a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod unigolion yn cael dewis o ystod o wasanaethau llety â chymorth ac i hwyluso'r trefniadau sy'n gysylltiedig â deiliadaeth.
Yn ddelfrydol bydd gennych ddealltwriaeth sylfaenol o gyfraith tai/tenantiaeth, byddwch yn unigolyn trefnus, craff yn ariannol a fydd yn medru dylunio a gweithredu systemau a phrosesau.
Sylwch, er bod swydd y Swyddog Comisiynu a Rheoli Contractau yn un sefydledig o fewn y tîm, bydd pwyslais sylweddol ar ddatblygiad proffesiynol yn ystod y 12 mis cyntaf.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am drefnu a chynnal cofnodion ar gyfer gwasanaethau felly bydd profiad o gadw at brosesau a dylunio prosesau ynghyd â sgiliau gweinyddol effeithiol yn amhrisiadwy. Mae sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn hanfodol, yn ogystal â llythrennedd TG a hyder i ddefnyddio amryw o systemau meddalwedd. Mae sgiliau ariannol, sgiliau dadansoddol a sgiliau datrys problemau da hefyd yn ofynnol ar gyfer y rôl hon.
Er bod gwybodaeth am y cylch comisiynu a deddfwriaeth gwasanaethau cymdeithasol yn ddymunol iawn, rydym yn croesawu unigolion o amryw o gefndiroedd proffesiynol i'r rôl hon.
Pe hoffech drafod y swydd, ffoniwch Ian Randell ar 01437 776107 neu anfonwch neges e-bost at ian.randell@pembrokeshire.gov.uk .
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.Gwiriadau CyflogaethMae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.DiogeluMae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol - Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.