Swyddog Comisiynu a Rheoli Contractau - Lleoliadau (Cyfnod Penodol)
Dyddiad cau 18/03/2026
Cyflogwr
Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Rôl
Swyddog gweithredol ar gyfer cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2028
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Tîm Strategol a Lleoliadau, yn dilyn buddsoddiad newydd i gryfhau digonolrwydd a chyflawni strategol. Mae'r rôl hon yn cefnogi nod y Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddileu elw o leoliadau, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol i sicrhau'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc.
Bydd y rôl arweinyddiaeth weithredol hon yn arwain ac yn datblygu'r tîm Canfod Lleoliadau, gan ddarparu cyfeiriad a chymorth clir i sicrhau bod y tîm yn gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig, ragweithiol, a strategol. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth lunio digonolrwydd lleoliad, meithrin partneriaethau effeithiol, a chyflawni canlyniadau o ansawdd uchel.
Byddwch yn goruchwylio'r gwaith o gyrchu, comisiynu a rheolaeth barhaus lleoliadau i blant a phobl ifanc, gan sicrhau bod gweithgarwch yn effeithlon, wedi'i gynllunio'n dda ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau gwasanaeth.
Gan weithio'n agos gyda'm Canfod Lleoliad, byddwch yn cefnogi dealltwriaeth glir o argaeledd lleoliadau lleol, yn rhagweld symudiadau sydd ar y gweill, yn nodi anghenion lleoliad sy'n dod i'r amlwg, ac yn mynd i'r afael â materion sefydlogrwydd. Byddwch hefyd yn arwain ar ddiwydrwydd dyladwy cadarn, yn cefnogi negodi contractau a rheoli costau, a sicrhau bod yr holl leoliadau'n cyrraedd y safonau ansawdd, diogelu a gwerth am arian gofynnol.
Drwy berthnasoedd cryf, cydweithredol â darparwyr a phartneriaid mewnol, byddwch yn sicrhau lleoliadau amserol, priodol, a chynaliadwy sy'n cyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.
Rydym yn chwilio am y canlynol
Arweinydd blaengar a dynamig sy'n llawn cymhelliant i dyfu a datblygu yn y rôl. Byddwch yn gefnogol ac yn gydweithredol yn eich dull, yn agored i ddysgu, ac yn awyddus i lunio sut mae'r gwasanaeth yn datblygu a dylanwadu arno.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i rywun sy'n barod i gamu i rôl arweinyddiaeth weithredol, gyda'r cymorth a'r lle i ddatblygu ei sgiliau, cyflwyno syniadau ffres, a chael effaith wirioneddol.
Pam ymuno â ni?
Rydym yn sefydliad sy'n arwain gyda thosturi ac yn cefnogi pobl i wneud eu gwaith gorau. Gyda gweithio ystwyth a dull hyblyg sy'n gwerthfawrogi cydbwysedd a llesiant, mae'l hon yn gyfle i dyfu eich sgiliau, llunio'r gwasanaeth, a chael effaith wirioneddol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 18 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 20 Mawrth 2026
Dyddiad Cyfweliad: 30 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr