1 x swydd rhan amser 21 awrMae gan Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru gyfle newydd a chyffrous i benodi un Swyddog Comisiynu Gwasanaethau Cenedlaethol i Blant llawn amser ac un rhan amser. Byddwch chi'n rhan o garfan ymroddedig sy'n canolbwyntio ar sicrhau'r deilliannau gorau posibl i blant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal ledled Cymru.
Mae'r garfan Consortiwm Comisiynu Plant Cymru yn garfan brysur sydd â baich gwaith amrywiol. Mae'n darparu gwasanaeth comisiynu cenedlaethol i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac yn rheoli Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer lleoliadau gwaith ym meysydd maethu annibynnol a phreswyl, yn ogystal â chludiant diogel. Mae hyn yn cael ei ategu gan ystod eang o brosiectau deddfwriaethol a pholisi amrywiol, hyfforddiant wedi'i gomisiynu, ac ein Grŵp Comisiynwyr Ifainc gweithredol.
Mae Consortiwm Comisiynu Plant Cymru yn chwilio am arweinwyr sydd â gweledigaeth strategol a sgiliau cyfathrebu gwych, sy'n gallu blaenoriaethu llwyth gwaith prysur ac sy'n gallu;
- Arwain a modelu arferion comisiynu gwych ar draws gwasanaethau i blant yng Nghymru; darparu comisiynu o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y plentyn, sy'n seiliedig ar anghenion ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
- Arwain prosiectau comisiynu integredig allweddol i gefnogi gweithrediadau strategaethau comisiynu a'r agenda plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.
- Dadansoddi iechyd y marchnadoedd ac arwain ar fentrau strategol i lunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion, rhagweld risgiau sy'n dod i'r amlwg iâr gyfer gwasanaethau sydd wedi'u comisiynu ac yn datblygu datrysiadau mewn modd rhagweithiol.
- Arwain ar brosiectau datgomisiynu yn ôl yr angen ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol a hynny er mwyn sicrhau bod asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu hymgorffori, nodi risgiau a manteision a'r camau lliniaru cysylltiedig a llunio amserlenni er mwyn osgoi bylchau.
- Arwain a rheoli ymgysylltiad cadarnhaol ag arweinwyr y farchnad, busnesau bach a chanolig, mentrau elusennol neu gymdeithasol ac annog y rheiny sy'n newydd i'r farchnad i ddatblygu datrysiadau gwasanaeth lleol, ranbarthol neu genedlaethol.
- Sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn cael eu cefnogi i gydymffurfio â'u dyletswyddau o ran digonolrwydd, edd a chynaliadwyedd.
- Llunio manylebau gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer gwasanaethau sydd wedi'u comisiynu, gan sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn diwallu anghenion y garfan o'r boblogaeth a nodwyd.
- Sicrhau bod barn plant a phobl ifainc ar gomisiynu gwasanaethau a gwella gwasanaeth yn cael ei cheisio fel mater o drefn. Dylanwadu ar y broses o gynllunio gwasanaethau, rheoli cyflawniad a chyflawni deilliannau. Cynnig datrysiadau wedi'u cyd-gynhyrchu er mwyn cadw Llais y Plentyn wrth wraidd gwaith y Consortiwm.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol ddealltwriaeth a phrofiad o ddarparu'r cylch comisiynu i safon uchel, ac yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a pholisi iechyd a gofal cymdeithasol sy'n berthnasol i wasanaethau plant yng Nghymru. Bydd gyda chi brofiad o gydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid yn y sector cyhoeddus ac annibynnol. Byddwch chi'n gweithio'n rhan o sefydliad cymhleth sy'n sensitif o safbwynt gwleidyddol gan datblygu cynlluniau partneriaeth strategol.
Caiff y garfan ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac mae'r garfan wedi'i lleoli ym Mhentrebach, Merthyr Tudful. Bydd deiliad y swydd yn dilyn patrwm gwaith hybrid, gan weithio yn y swyddfa 2 ddiwrnod yr wythnos pro rata, a chyfle i weithio'n hyblyg pan fo angen.
Swydd genedlaethol yw hon, felly bydd gofyn i chi deithio'n annibynnol ledled Cymru er mwyn ymgysylltu ag awdurdodau lleol partner a rhanddeiliaid allweddol, yn ogystal â hynnal cynadleddau neu achlysuron mawr.
Hoffech chi ragor o wybodaeth? Cysylltwch â Karen Benjamin trwy ffonio (01443) 570098.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 13 Awst a bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar 20 a 27 Awst 2025.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus cyn iddo gychwyn yn y swydd.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.