Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1174
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Cysylltu Bywydau
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Caerfyrddin
Gradd: Gradd F
Cyflog: £27,711 - £31,586
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £14.36 - £16.37
Oriau Contract: 37 awr
Dewch i ymuno â'n tîm Ydych chi'n angerddol am gyd-gynhyrchu, ymgysylltu â'r gymuned a gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl?Mae Bywydau a Rennir yn ffordd hynod lwyddiannus o gefnogi pobl i fyw yn eu cymunedau fel rhan o deulu, gan gael dewis a rheolaeth dros eu gofal a'u cefnogaeth, sydd â dull sy'n seiliedig ar gryfderau wrth ei wraidd. Mae'n seiliedig ar berthnasoedd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau unigolion a'u gofalwyr Bywydau a Rennir.Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithiwr profiadol ymuno â Thîm Bywydau a Rennir Gorllewin Cymru. Rydym yn chwilio am unigolyn cadarnhaol, sy'n canolbwyntio ar atebion ac sy'n hynod gymhellol sy'n ymdrechu am ragoriaeth yn eu gwaith.Fel ein Cefnogaeth Busnes, byddwch yn gyfrifol am gydlynu a darparu cefnogaeth ariannol i'r Rheolwr Busnes, ar ran Gorllewin Cymru ac aelodau'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a rhanddeiliaid, wrth reoli ac adrodd ar gyllidebau, creu a monitro anfonebau dyledwyr a sicrhau ansawdd, sy'n gysylltiedig â'r Busnes ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Byddwch yn cyflawni rôl allweddol wrth ddarparu a sicrhau tryloywder ac atebolrwydd fel gwasanaeth cofrestredig o dan CIW, ar gyfer Sir Gaerfyrddin fel yr Awdurdod arweiniol.Os oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o weithio mewn lleoliad prysur a phrofiad helaeth o becynnau Microsoft Office a dadansoddi data, rydym yn arbennig o awyddus i glywed gennych.Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â:- David Bevan - 01267 246890 neu dmbevan@carmarthenshire.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 033141 - Swyddog Cyllid a Monitro - Cysylltu Bywydau - Finance and Monitoring Officer.pdf - 193KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 23/03/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.