Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2158
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
31 Mawrth 2028
Lleoliad:
Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd G
Cyflog:
£32,061 - £36,363
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£16.62 - £18.85
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Cymorth Gofal Plant brwdfrydig ac ymroddedig i'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth o gynnig darpariaeth blynyddoedd cynnar o safon uchel ledled Sir Gaerfyrddin. Yn y rôl hon, byddwch chi'n ysbrydoli ac yn cefnogi darparwyr gofal plant i ddarparu gofal o safon ragorol, yn cynghori ac yn monitro lleoliadau i sicrhau eu bod nhw'n bodloni ac yn rhagori ar ddisgwyliadau, ac yn cyfrannu at hyfforddiant a gwaith partneriaeth gydag amrywiaeth o sefydliadau. Byddwch chi hefyd yn arwain darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg yn unol â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a Chanllawiau Gofal Plant Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.
Rydyn ni'n chwilio am unigolion sydd â phrofiad o ofal plant a dealltwriaeth gref o ddatblygiad plant, ac sy'n cydnabod pwysigrwydd chwarae a phrofiadau bywyd go iawn mewn dysgu cynnar.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sgiliau cyfathrebu rhagorol ac agwedd gadarnhaol a hyblyg a bydd yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gallu teithio ledled y sir i gefnogi darparwyr gofal plant.
Os ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant ifanc a chefnogi'r gwaith o ddatblygu darpariaeth gofal plant ragorol, bydden ni'n falch iawn o glywed gennych chi.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Heini Jones, HeiniJones@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
035279.pdf - 182KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 10/09/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.