Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at 1 flwyddyn.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu Gofal Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Swyddog Cymorth Tîm Gwasanaethau Arbenigol, sy'n gweithio o fewn gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddech yn darparu amrywiaeth o swyddogaethau cymorth gweinyddol gan weithio'n agos gyda Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol mewn Gwasanaethau Oedolion.
A chithau'n Swyddog Cymorth Tîm Gwasanaethau Arbenigol, byddwch yn cynorthwyo wrth ddarparu cymorth clercol i un o'n Timau Gofal Cymdeithasol Oedolion mewn lleoliadau amrywiol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Byddwch yn hyderus ac yn rhagweithiol, heb ofni defnyddio'ch menter eich hun, gyda sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol. Yn ogystal, mae'r rôl yn gofyn am sgiliau dadansoddol da, hunangymhelliant a sgiliau amldasgio da.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys trefnu a chydlynu dyddiaduron, cyfathrebu â chleientiaid a gweithwyr proffesiynol (ar lafar ac yn ysgrifenedig), mynd ati'n rhagweithiol i drefnu a chefnogi cyfarfodydd sensitif, cofnodi gwybodaeth ar gofnodion cleientiaid, olrhain a monitro gwybodaeth am lwyth achosion a dethol gwybodaeth o ffynonellau amrywiol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 18 Chwefror 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 26 Chwefror 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 11 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr