Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Rôl
Swyddog cymorth ar gyfer cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Tîm Comisiynu Strategol a Lleoliadau, yn dilyn buddsoddiad newydd i gryfhau cynllunio digonolrwydd a chyflawni strategol o fewn Gwasanaethau Plant.
Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni trefniadau comisiynu strategol, gan helpu i sicrhau bod y gwasanaethau a'r lleoliadau cywir ar gael i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc nawr ac yn y dyfodol.
Gan weithio'n agos gydag uwch arweinwyr, timau gweithredol a phartneriaid allanol, byddwch yn cyfrannu at gynllunio strategol, comisiynu a datblygu gwasanaethau sy'n cefnogi gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc. Un ffocws craidd y rôl fydd cefnogi dull yr awdurdod o ran digonolrwydd lleoliadau, gan helpu i ddatblygu marchnad darparwyr gynaliadwy ac o ansawdd uchel.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi dull cydgysylltiedig a rhagweithiol ar draws y gwasanaeth, gan helpu i ddadansoddi'r galw, llunio cynlluniau comisiynu, datblygu partneriaethau gyda darparwyr a sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a gwerth am arian.
Er bod y rôl yn cynnwys goruchwylio comisiynu lleoliadau ac ymgysylltu â'r farchnad, mae'n canolbwyntio'n bennaf ar gynllunio strategol, datblygu gwasanaethau a chomisiynu gweithgarwch sy'n cryfhau'r system Gwasanaethau Plant ehangach.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 1 Ebril 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 2 Ebril 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 14 Ebril 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr