Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1581
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Gwybodaeth am Dai
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract: 31 Mawrth 2026
Lleoliad: Llanelli
Gradd: Gradd I
Cyflog: £37,938 - £41,511
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £19.66 - £21.52
Oriau Contract: 37 awr
Dewch i ymuno â'n tîm Rydym ni'n chwilio am berson brwdfrydig a hyblyg sydd ȃ sgiliau cyfathrebu gwych. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi Arweinydd y Grant Cymorth Tai, bydd y swydd yn ymwneud ag ystod eang o waith hanfodol a gwaith gydag ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid yn lleol ac yn rhanbarthol gan sicrhau cyfathrebu effeithiol â phartneriaid perthnasol, yn cyflawni'r canlyniadau gorau ac yn cael yr effaith fwyaf ar gwsmeriaid a defnyddwyr y gwasanaeth.
Fel Swyddog Cynllunio Strategol a Phrosiectau Grant Cymorth Tai, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli ystod o adolygiadau sydd â'r nod o sicrhau y cyflawnir y canlyniadau cywir i gefnogi anghenion pobl sy'n defnyddio gwasanaethau Grant Cymorth Tai ac i sicrhau gwerth yr arian, gan gydymffurfio â chanllawiau ac amserlenni Llywodraeth Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli ac arwain ar yr adolygiad Grant Cymorth Tai o wasanaethau anableddau dysgu a llety â chymorth dros dro. Arwain y gwaith o gyflwyno gwasanaethau arloesol a datblygiadau newydd gan weithio gyda rhanddeiliaid i gynllunio atebion gwasanaeth priodol a chanolbwyntio ar yr effaith fwyaf i bobl sy'n derbyn gwasanaethau ac agenda ataliol hirdymor.
Os hoffech gael sgwrs, cystylltwch ac Alun Jones ar aldjones@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 026494.pdf - 210KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 19 Mai 2025
Lefel DBS: Bydd gwiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 30/04/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.