Swyddog Data Perfformiad Dechrau'n Deg (Ymgeiswyr mewnol yn unig)
Dyddiad cau 23/03/2026
Cyflogwr
Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin
Lleoliad
Sir Gaerfyrddin
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Cyflog
££- 32,061 - £- 36,363 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal plant
Gweithle
Flying Start
Rôl
Ymarferydd Dechrau'n Deg
Disgrifiad o'r swydd
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2841
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
30 Medi 2028
Lleoliad:
Llanelli
Gradd:
Gradd G
Cyflog:
£32,061 - £36,363
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£16.62 - £18.85
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae Rhaglen Dechrau'n Deg Sir Gaerfyrddin yn chwilio am Swyddog Data Perfformiad trefnus, dadansoddol a hunangymhellol iawn i ymuno â'n tîm. Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn sydd â sgiliau data cryf sydd wedi ymrwymo i gefnogi canlyniadau gwell i blant a theuluoedd.
Bydd y Swyddog Data Perfformiad Dechrau'n Deg yn chwarae rôl hanfodol wrth gynnal systemau data o ansawdd uchel, cefnogi monitro perfformiad, a sicrhau adrodd cywir ac amserol ar draws y rhaglen Dechrau'n Deg. Byddwch yn gweithio'n agos gyda thimau mewnol ac asiantaethau partner i gefnogi gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwella gwasanaeth parhaus.
Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n drefnus iawn, sy'n gallu rheoli blaenoriaethau cystadleuol, a sicrhau cywirdeb o dan bwysau. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn dod â sgiliau TG a digidol rhagorol, gyda'r hyder i ddefnyddio ystod o gronfeydd data, fel Eclipse, yn ogystal â chymwysiadau Microsoft. Bydd yn dangos sylw cryf i fanylder ymhob agwedd ar fewnbynnu data, dilysu, ac adrodd, a meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol, gan ei alluogi i gynhyrchu dogfennaeth glir, cywir a phroffesiynol. Mae'r rôl hefyd yn gofyn am unigolyn rhagweithiol â chymhelliant cryf sy'n gallu gweithio'n effeithiol yn annibynnol ac fel rhan o dîm ehangach.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg sy'n cyd-fynd ag anghenion y gwasanaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cefnogaeth barhaus, hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i ennill profiad pellach a chymwysterau perthnasol mewn rheoli perfformiad a data.
Sylwer: Darllenwch y proffil swydd yn ofalus cyn gwneud cais. Rhaid i'ch datganiad ategol gynnwys enghreifftiau clir, ysgrifenedig sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol. Rydym yn annog ymgeiswyr i esbonio beth wnaethoch chi, pam y gwnaethoch hynny, a beth oedd y canlyniad.
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Paola Perkins 01554 742445 pperkins@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
019736.pdf - 325KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 23/03/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
• Cyflog cystadleuol • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr