Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Rôl
Swyddog gweithredol ar gyfer cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Rydym ni'n chwilio am Swyddog Datblygu'r Gweithlu dros dro ar gyfer Gwasanaeth Gweithlu, Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig. Mae hon yn swydd â chontract cyfnod penodol / cyfle secondiad am 18 mis.
Bydd y Swyddog Datblygu'r Gweithlu yn adrodd i'r Rheolwr Adain a bydd yn arwain a chydlynu gweithgareddau datblygu'r gweithlu ar draws y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig, gan sicrhau bod budd-ddeiliaid yn ymgysylltu, bod rhaglenni dysgu a datblygu yn cael eu darparu'n effeithiol o fewn y gyllideb a bod y gofynion rheoleiddio yn cael eu bodloni. Bydd hefyd yn sicrhau gwelliant parhaus yn ansawdd y gwasanaeth drwy gydweithio, ymgynghori a chynrychioli'r adain ar grwpiau allweddol.
Gan fod y cyfle yma hefyd yn cael ei gynnig ar sail secondiad, dylech drafod a cheisio dod i gytundeb gyda'ch rheolwr cyn cyflwyno cais.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sharon Garland, Rheolwr Adain y Gweithlu (Sharon.garland@conwy.gov.uk / 01492 575618)
Gofynion y Gymraeg:
Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr