Swyddog Derbyn Cyfeiriadau Teuluoedd yn Gyntaf Dros Dro
Dyddiad cau 07/05/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
Gwynedd
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Dros dro
Maes gofal
Gofal plant
Disgrifiad o'r swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Caren Brown ar 01758 704455 neu drwy e-bost: carenelainebrown@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd (3).pdf
Y gallu i weithio a chymysgu'n hawdd â phobl. Gallu i ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
Y gallu i wrando a chynnal sgyrsiau anodd ar adegau ac ymateb yn bwyllog a sensitif.
Y gallu i adeiladu cysylltiadau a rhwydweithiau gyda phobl a mudiadau amrywiol
Y gallu i weithio o dan bwysau, yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
Person taclus a threfnus sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen ac yn dangos blaengaredd.
Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau.
Ymrwymiad i sicrhau mynediad amserol i wasanaethau er mwyn gwella safon a chyfleon bywyd.
Person sy'n hyderus yn ysgrifennu, sgwrsio a chyflwyno gwybodaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Cymhwyster lefel 3 neu uwch mewn maes perthnasol.
3 + TGAU A-C (yn cynnwys Cymraeg a Saesneg)
Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a rhieni.
Dymunol Hyfforddiant amddiffyn plant sylfaenol.
Profiad perthnasol Hanfodol Dealltwriaeth o ofynion y gwasanaeth plant a'r angen i gwrdd â safonau ymarfer statudol.
Gallu i weithio mewn partneriaeth gyda phlant, teuluoedd ac asiantaethau eraill.
Profiad o gyfathrebu gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang
Gallu i ddefnyddio cyfrifiadur yn y gwaith , gydag isadeiledd sgiliau ar gyfer datblygu medrusrwydd yn nefnydd systemau Gwybodaeth electronig y gwasanaeth
Profiad o weithio gyda phobl mewn sefyllfaoedd o angen a rhoi cyngor.
Dymunol Profiad o asesu anghenion plant / teuluoedd a'u helpu i flaenoriaethau materion sy'n eu pryderu.
Profiad o weithio mewn tîm plant neu leoliad gwaith gyda plant.
Profiad o weithio mewn cyd-destun cefnogi plant a theuluoedd.
Profiad o ymgysylltu cymunedol er mwyn helpu teuluoedd i ddarganfod beth
sydd ar gael i'w cefnogi'n lleol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Sgiliau cyfathrebu da a chadarn, a'r gallu i ymwneud â phobol, plant a phobl ifanc yn effeithiol a hyderus, yn aml mewn amgylchiadau o angen, gan barchu'r angen am gyfrinachedd.
Y gallu i ffurfio a chynnal perthynas waith dda gyda plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Y gallu i weithio'n effeithiol a chreadigol, mewn cyd-destun aml-asiantaethol ac aml-ddisgybledig.
Y gallu i ffurfio a chynnal perthynas waith dda gyda amrediad eang o weithwyr proffesiynol,Sgiliau cyfrifiadurol da a'r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office sylfaenol.
Sgiliau rhwydweithio da.
Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol.
Sgiliau gofal cwsmer ardderchog.
Sgiliau trefnu da.
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
Dealltwriaeth o ganllawiau Amddiffyn Plant
Dymunol Gallu crynhoi a chofnodi sgyrsiau efo plant a theuluoedd a nodi eu dyheadau a beth sy'n bwysig iddynt
Gwybodaeth gyfoes ynglŷn â deddfwriaeth sy'n berthnasol i'r maes plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Gwybodaeth am y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a'r meddylfryd tu ôl i'r Tîm o Amgylch y Teulu.
Dealltwriaeth o Ddeddf Gwasanaethau cymdeithasol a Llesiant 2014.
Dealltwriaeth o egwyddorion Rhaglenni Trechi Tlodi y Llywodraeth , yn benodol, Teuluoedd yn Gyntaf
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cyfrannu tuag at ddarparu gwasanaeth Tîm Derbyn i gyfeiriadau Ymyrraeth Gynnar o fewn yr adran.
• Helpu i dderbyn ymholiadau a chyfeiriadau Teuluoedd yn Gyntaf / Ymyrraeth Gynnar ar ran yr adran gan ddefnyddwyr gwasanaeth, eu gofalwyr a theuluoedd neu swyddogion proffesiynol eraill.
• Cynnal trafodaethau "Beth Sy'n Bwysig" efo plant a theuluoedd, asesu eu anghenion a chofnodi eu dyheadau.
• Sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael eu cyfeirio at gyngor, gwybodaeth a'r gwasanaethau mwyaf addas iddynt.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Offer Cyfrfiadurol - glinidaur, ffôn symudol, ac offer arddangos
Prif ddyletswyddau • Cefnogi Swyddog Derbyn Cyfeiriadau Teuluoedd yn Gyntaf i ymateb i ymholiadau am wybodaeth a derbyn cyfeiriadau Ymyrraeth Gynnar gan deuluoedd ac amrywiaeth o ffynonellau. Eu cofnodi'n unol a chanllawiau ac ymateb i'r cyfeiriadau yn unol â'r drefn a nodi'r wybodaeth ar sustem WCCIS yr Adran.
• Cynnal trafodaethau gyda phlant a'u teuluoedd i gwblhau asesiad o'u hanghenion a sgwrs "Beth sy'n bwysig". Bydd hyn yn gallu digwydd dros y ffôn, yn rhithiol new mewn person.
• Gwrando ar, a chasglu, holl wybodaeth ymholiad cyswllt addas a pherthnasol gan y cwsmer er mwyn hwyluso a chynghori gwasanaethau pellach.
• Cyfeirio plant a theuluoedd sydd angen cefnogaeth gynnar ymlaen i'r gwasanaeth mwyaf priodol iddynt ar y pryd.
• Cydweithio gyda phartneriaid allweddol megis addysg, iechyd a'r 3ydd sector i drafod cyfeiriadau a chasglu gwybodaeth berthnasol.
• Delio ag ymholiadau ffon, E-bost a phapur a darparu cyngor a gwybodaeth gyffredinol.
• Delio a datrys ymholiadau neu gyfeiriad o'r dechrau i'r diwedd, a bod yn gyfrifol am yr holl weithgarwch ynghlwm â datrys ymholiad neu gyfeiriad.
• Cysylltu gyda gwasanaethau statudol, anstatudol a 3ydd sector ar draws y Sir er mwyn cael dealltwriaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd yng Ngwynedd ac i hyrwyddo gwaith ymyrraeth gynnar.
• Gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau er mwyn sicrhau'r gefnogaeth gorau i deuluoedd ac adnabod unrhyw fylchau.
• Cydweithio a rhwydweithio gyda swyddogion eraill a phartneriaid sydd yn berthnasol i ymholiadau a cheir gan ddefnyddwyr y gwasanaeth.
• Cefnogi sesiynau rhannu gwybodaeth i godi proffil Teuluoedd yn Gyntaf Gwynedd a sut i gyfeirio.
• Bwydo gwybodaeth gyson i mewn i WCCIS a'i ddiweddaru. Cynnal sustemau cyfrifiadurol priodol.
• Gweithio mewn modd hyblyg.
• Gweithio mewn modd gofalgar a sensitif.
• Cynorthwyo gyda monitro a monitro ansawdd y gwasanaeth.
• Gwella bodlonrwydd cwsmeriaid a'r ddarpariaeth o wasanaeth; cyfrannu syniadau ar gyfer datblygu a hyrwyddo'r gwasanaeth, adnabod gwelliannau i'r prosesau, cydweithio a'r Gwasanaethau.
• Cydymffurfio gyda pholisïau'r Cyngor (e.e iechyd a diogelwch, cyfleoedd cyfartal, rhyddid gwybodaeth) a deddfwriaeth a sicrhau cyfrinachedd.
• Dysgu a rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr, gweithio fel rhan o dîm, cefnogi cydweithwyr.
• Cyflwyno delwedd broffesiynol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Fe all y swydd ddatblygu yn y dyfodol i weithio oriau hyblyg er mwyn ymateb yn fwy effeithiol i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr