Mae'r swydd Swyddog Adolygu Annibynnol: Diogelu yn cynnig cyfle cyffrous i weithio fel rhan o Dîm Sicrhau Ansawdd brwdfrydig ac ymroddedig o fewn Gwasanaeth Diogelu Cyngor Sir Ceredigion.
Tra bod yr Awdurdod Lleol yn datblygu Model Llesiant Gydol Oed o ddarpariaeth gofal cymdeithasol, eich rôl fydd gweithio'n benodol â phlant, pobl ifanc.
Rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol: Diogelu fydd darparu gwasanaeth adolygu statudol annibynnol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol, pobl ifanc. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cadeirio Cynadleddau Cychwynnol a Chynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant, gan sicrhau bod Cynlluniau Amddiffyn Plant cadarn yn cael eu datblygu ar gyfer plant sydd mewn perygl o, neu'n cael eu cam-drin a/neu'u hesgeuluso.
Bydd y rôl hefyd yn golygu cynnal Adolygiadau Blynyddol o Ofalwyr Maeth/Gofalwyr sy'n Berthnasau ac adolygiadau o blant risg uchel sydd angen gofal a chymorth.
Mi fyddech yn rhan o Bartneriaeth Ranbarthol sy'n gweithio mewn ffordd gadarn, ymroddedig ar lefel leol, aml-asiantaeth, gan anelu at weithio ar y cyd i sicrhau canlyniadau o'r ansawdd gorau i blant a phobl ifanc.
Ein cynnig i chi: Mae'r Awdurdod Lleol yn gweithio i roi'r Fframwaith Ymarfer Arwyddion Diogelwch ar waith.Mae'r Awdurdod Lleol hwn wedi ymrwymo i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus ei staff, i'w cynorthwyo i gyflawni eu potensial yn llawn, drwy oruchwyliaeth, cymorth a chyfleoedd hyfforddi ardderchog.
Rydym hefyd yn angerddol am sicrhau bod ein gweithwyr yn cael y cyfle i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: gallwch ddewis gweithio gartref neu mewn swyddfa
- Amser hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth. Gellir cymryd oriau credyd cronedig fel gwyliau ychwanegol
Ymhellach, yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cyfraniadau pensiwn hynod hael (14.6%), buddion teulu gwell, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles gweithwyr. Mae rhagor o wybodaeth am ein buddion amrywiol i weithwyr ar gael
yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonCysylltwch â ni Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Paul Portman-Barnard ar Paul.Portman-Barnard@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy