Swyddog Gofal Plant a Chwarae
Dyddiad cau 01/07/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Math o gontract
- Dros dro
- Maes gofal
- Gofal plant
Disgrifiad o'r swydd
ManylionHysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rachel Jones ar 01286 678824
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 01/07/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant (C) (2).pdf
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl. Gallu i ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
Yn gallu adeiladu perthynas waith da gyda chydweithwyr o fewn y maes.
Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Person taclus a threfnus sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen ac yn dangos blaengaredd
Gallu cyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
NVQ3 neu uwch mewn cymhwyster Gofal Plant a Chwarae
3 TGAU (gradd A-C yn cynnwys Cymraeg a Saesneg)
DYMUNOL
Diogelu Data
Cymhwyster ECDL neu gymhwyster cyfwerth yn nefnydd cyfrifiaduron a dehongli.
NVQ5 mewn cymhwyster perthnasol neu gyfatebol
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio gyda plant yn y blynyddoedd cynnar, mewn lleoliad gofal plant, chwarae neu addysg blynyddoedd cynnar
Profiad o gyfathrebu gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang
Profiad o gynllunio a chwblhau gwaith ymchwil ffurfiol ac anffurfiol
Profiad o gasglu, dadansoddi a chyflwyno data a gwybodaeth
Profiad o gynnal systemau gweinyddol mewn swyddfa
Profiad o ymwneud yn effeithiol ag amrywiol unigolion a phartneriaid eraill
DYMUNOL
Profiad o gyflwyno gwybodaeth i gyfarfodydd
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth eang am y sector Gofal Plant, Chwarae ac Addysg Blynyddoedd Cynnar
Sgiliau cyfathrebu da a chadarn, a'r gallu i ymwneud â phobol yn effeithiol gan barchu'r angen am gyfrinachedd.
Sgiliau gofal cwsmer ardderchog
Sgiliau trefnu a blaenoriaethu
Sgiliau cyflwyno
Sgiliau cyfrifiadur da - defnydd o raglen Windows (Word, Excel,Outlook, TEAMS)
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
DYMUNOL
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau.. e.e. staff, cyllid, offer
Gliniadur
Offer chwarae
Ffon Symudol
Prif Ddyletswyddau..
Click here to enter text.
Amgylchiadau Arbennig.. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
AMODAU GWAITH
Cyflogaeth:
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos.
Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol fel ar y penwythnosau neu ar y rota 8 i 6.
Mae gan yr Adran raglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso a fydd yn cyfrannu at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen.
Gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn angenrheidiol.

- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Cyrraedd gofynion statudol Deddf Gofal Plant 2006 - Adran 22 (sicrhau gofal plant digonol) ac Adran 26(asesu darpariaeth gofal plant)
- Cefnogi'r gwaith o asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae o fewn yr Awdurdod, yn unol a Cyfleoedd Chwarae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
- Cefnogi lleoliadau Gofal Plant, Chwarae ac Addysg Feithrin i ddarparu gwasanaeth gofal, chwarae ac addysg gynnar o safon uchel.
Cyfrifoldeb am Adnoddau.. e.e. staff, cyllid, offer
Gliniadur
Offer chwarae
Ffon Symudol
Prif Ddyletswyddau..
Click here to enter text.
- Cefnogi'r Swyddog Strategol Gofal Plant gydag ymchwilio a llunio adolygiadau ac asesiadau digonolrwydd statudol o fewn y maes Gofal Plant a Chwarae. Gweithredu ar raglen waith blynyddol i'r maes dan arweiniad y Cyngor, Partneriaid allweddol a'r Llywodraeth.
- Cymryd rôl strategol i sicrhau llefydd gofal plant digonol ar gyfer holl cynlluniau cyllido y Blynyddoedd Cynnar, gan gydweithio gyda'r staff perthnasol a'r asiantaethau i gael gofal plant, addysg blynyddoedd cynnar a chwarae o ansawdd.
- Cynorthwyo'r lleoliadau, pwyllgorau rheoli a'r cyrff arweiniol i gydymffurfio i anghenion AGC fel gweithdrefnau gofal plant a pholisïau ar gyfer rhedeg yr holl leoliadau i gyrraedd gofynion cynlluniau cyllido y Blynyddoedd Cynnar.
- Cydlynu'r drefn o rannu llefydd gofal plant i'r teuluoedd sy'n deilwng o'u hawliad Dechrau'n Deg, GP2 ag adysg Feithrin. Sefydlu a gweithredu trefniadau effeithiol i sicrhau bod y mwyafrif o'r plant yn derbyn yr hawliad yn llawn. Bod yn bwynt cyswllt i'r drefn i deuluoedd a thargedu teuluoedd anodd ei cyrraedd i hyrwyddo'r cynnig
- Cefnogi'r Swydd Strategol Gofal Plant i ddarparu cyflwyniadau a chefnogaeth cychwynnol i darpar-ddarparwyr, ag unrhyw arweinyddion/rheolwyr sydd yn newydd i'r maes gofal plant a chwarae.
- Cefnogi darpar-ddarparwyr gofal plant a chwarae gyda chofrestriad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) gan sicrhau ymwybyddiaeth o'r Rheoliadau a gofynion statudol.
- Ar y cyd gyda'r Swyddog Strategol Gofal Plant, darparu cefnogaeth i ddarparwyr gofal plant a chwarae newydd, a phresennol, sy'n cynnwys - cyngor datblygu busnes, materion llywodraethiant, materion ariannol, hyfforddiant i'r gweithlu, diogelu, polisïau ADY y Cyngor, ac iaith, a'u cyfeirio at asiantaethau perthnasol fel sydd angen.
- Cefnogi darpariaethau gofal plant a chwarae i fod yn fwy cynaliadwy drwy fentora a chefnogi darpariaethau i ddulliau o fonitro ariannol, dadansoddi rhagamcaniad y busnes a chynnig cefnogaeth i reoli llif ariannol fel y bo'n briodol.
- Cyd weithio gyda'r Swyddog Strategol Gofal Plant i lunio cynnwys Rhaglen Hyfforddiant y Blynyddoedd Cynnar,
- Gweithredu fel Rheolwr Gweithredol y trelar Chwarae ar draws y Sir gan sicrhau cydymffurfio gyda rheoliadau AGC ar y cyd gyda Rheolwr y Feithrinfa a'r Unigolyn Cyfrifol.
- Mentorau staff newydd a prentisiaethau mewn egwyddorion gofal plant a chwarae yn y cynlluniau chwarae
- Person wedi ei enwi - Cymorth Cyntaf yn y cynlluniau chwarae.
- Mewn cydweithrediad a'r Tîm Busnes a Gweinyddiaeth sicrhau fod yr wybodaeth am y darparwyr meithrin, gofal plant a chwarae yn gyfredol ar yr Hwb Teulu Gwynedd/Dewis
- Cynnal gwybodaeth gyfredol am grantiau allanol a meini prawf ar gyfer ceisiadau a chefnogi lleoliadau i wneud cais am grantiau.
- Sicrhau trosglwyddo gwybodaeth berthnasol yn ôl yr angen i'r partneriaethau perthnasol gan adrodd yn rheolaidd i'r Fforwm Gofal Plant, Fforwm Chwarae, ac i'r Grŵp Ansawdd Blynyddoedd Cynnar ar y maes blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae
- Gweithio gyda darparwyr hyfforddiant, Colegau ac Ysgolion Uwchradd i hyrwyddo gofal plant a chwarae fel llwybr gyrfa bositif.
- Cefnogi darparwyr gofal plant a chwarae gyda materion recriwtio i'r sector
- Cyfrannu at hyrwyddo gofal plant fel proffesiwn a recriwtio hyfforddeion gan gynnwys cydlynu a mynychu digwyddiadau sydd wedi'u hanelu at ddarpar recriwtiaid newydd.
- Gwneud a chynnal cysylltiadau â sefydliadau a rhaglenni eraill yng Ngwynedd sy'n cefnogi busnesau lleol a gweithgarwch economaidd, gan gynnwys rhaglenni cyflogaeth
- Cynnal gwybodaeth gyfredol am ddatblygiadau a mentrau newydd, yn lleol ac yn genedlaethol, yn ymwneud â'r sector gofal plant a chwarae.
- Ymchwilio i arfer da o fewn y maes datblygu'r gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae.
- Cefnogi'r darparwyr gofal plant a chwarae i ddatblygu lleoliadau cynhwysol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol
- Cydweithio a rhwydweithio gyda swyddogion eraill a phartneriaid er mwyn cyflawni gofynion y swydd.
- Ymgymryd â chyrsiau hyfforddi'r hyfforddwr pan mae cyfleoedd i uwchsgilio'r sector gan yna arwain a rhedeg y cyrsiau yn ôl yr angen
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
- Mewn cydweithrediad a'm Busnes a Gweinyddiaeth sicrhau fod gwybodaeth gyfredol a chywir ynglŷn â grantiau gofal plant a chwarae yn cyrraedd darpar-ddarparwyr a darparwyr presennol ar draws Gwynedd.
- Trefnu a mynychu sesiynau estyn allan i godi proffil a hyrwyddo'r maes blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae.
- Mynychu cyfarfodydd grwpiau, fforymau a rhwydweithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy'n rhoi sylw i faterion sy'n gysylltiedig â'r maes gofal plant a chwarae.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig.. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
AMODAU GWAITH
Cyflogaeth:
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos.
Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol fel ar y penwythnosau neu ar y rota 8 i 6.
Mae gan yr Adran raglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso a fydd yn cyfrannu at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen.
Gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn angenrheidiol.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.