Swyddog Gofal Plant a Datblygu Busnes Swydd-ddisgrifiad Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 20/06/2025
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys: 1. Arwain ar ddarparu gwasanaeth cymorth busnes gofal plant ym Mhowys trwy ddatblygu darpariaeth newydd, ac ymestyn, cynnal a datblygu'r ddarpariaeth bresennol. 2. Sicrhau y cysylltir â holl ddarpariaeth gofal plant cofrestredig Arolygiaeth Gofal Cymru ym Mhowys i gynnig cymorth, o leiaf unwaith y flwyddyn. 3. Cydlynu pecynnau cymorth busnes gofal plant i ddarparwyr gofal plant newydd a phresennol ym Mhowys, ar sail anghenion. 4. Gweithio gyda holl aelodau'r Tîm Gofal Plant i ddatblygu darpariaeth gofal plant newydd, ymestyn, cynnal a datblygu'r ddarpariaeth bresennol mewn meysydd angen a nodwyd, fel yr amlygwyd yn Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant Powys ac wrth baratoi ar gyfer gweithredu a darparu Cynnig Gofal Plant LlC. 5. Darparu rheolaeth llinell, goruchwyliaeth, gwerthusiad a chefnogaeth i'r swyddog(ion) cefnogi busnes. 6. Ymgysylltu a chefnogi darparwyr gofal plant ym Mhowys i gofrestru i ddarparu Cynnig Gofal Plant LlC. 7. Cefnogi'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i sicrhau bod y gronfa ddata gofal plant yn effeithiol ac yn gyfredol. 8. Cyfeirio a gweithio mewn partneriaeth â lleoliadau gofal plant a'u cyfeirio at asiantaethau priodol eraill am gymorth neu gyngor. Ee, AGC, PAVO, Cyfnod Sylfaen ac Addysg, Dechrau'n Deg ac ati. 9. Hyrwyddo'r Gwasanaeth Cefnogi Busnes i ddarparwyr gofal plant a sefydliadau allanol perthnasol. 10. Darparu cymorth i gael mynediad at grantiau cynaliadwyedd brys a gwneud ceisiadau i'r grŵp strategaeth gofal plant fel y bo'n briodol. 11. Darparu cymorth i gwblhau ceisiadau grant datblygu gofal plant i'r grŵp strategaeth gofal plant a chefnogi grwpiau drwy gofrestru a diwygio cofrestriad gydag AGC. 12. Sicrhau bod unrhyw geisiadau grant i'r awdurdod lleol yn cael eu gwirio am gywirdeb. 13. Arwain ar drefnu, datblygu a darparu sesiynau hyfforddi busnes gofal plant. 14. Arwain ar gydlynu a chyflwyno sesiynau briffio Gwarchodwyr Plant i sicrhau bod opsiynau gofal plant hyblyg ar gael i deuluoedd ym Mhowys. 15. Datblygu gwaith papur safonol i sicrhau bod adnoddau'n cael eu diweddaru gan gynnwys mewn perthynas â materion cyfreithiol a ffynonellau cyllid ar gyfer lleoliadau gofal plant. 16. Arwain ar ddatblygu cylchlythyr darparwr gofal plant i hysbysu am hyfforddiant, sesiynau cymorth, materion o ddiddordeb, newyddion grŵp gofal plant ac ati. 17. Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd y Grŵp Strategaeth Gofal Plant. 18. Mynychu hyfforddiant perthynol a chymryd cyfrifoldeb am anghenion datblygiad personol.
Mae angen Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr