Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G07 £30,559 - £32,115 y flwyddyn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i ddatblygu ac ehangu ein gwasanaethau preswyl i blant. Rydym yn agor cartrefi bychain 2/3 ystafell wely yn ardal Wrecsam a'r cyffiniau.
Rydym yn chwilio am nifer o Swyddogion Gofal Plant Preswyl sy'n frwd dros wneud gwahaniaeth go iawn.
Fel Swyddog Gofal Plant Preswyl, byddwch yn ymuno â'n tîm gwych ar y daith hon i annog a grymuso ein plant a'n pobl ifanc eithriadol i fagu eu hunanhyder, eu hunan-barch, eu ffydd ynddyn nhw eu hunain a'u hymdeimlad o werth.
Rydym yn annog ein pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol. Mae gennym ni ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob un o'n pobl ifanc. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i fynd ati i geisio eu barn a buddsoddi ynddyn nhw, gan mai nhw yw ein dyfodol ni.
Swyddi amrywiol ar gael, yn cynnwys rhai llawn amser a rhan-amser, a swyddi gwasanaeth effro drwy'r nos.
Os nad oes gennych y cymhwyster Lefel 3 ar hyn o bryd, bydd ceisiadau'n parhau i gael eu hystyried gan y bydd cyfle i ennill y cymhwyster ar ôl y penodiad.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â Emma Rees ar e-bost Childrenssocialcare.Recruitment@wrexham.gov.uk neu dros y ffôn - 07721 676450.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, credoau crefyddol neu oedran.
Mee'r Cyngor yn datblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ymgeiswyr sy'n gallu gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflynwyd mewn Saesneg.