Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Manylion Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Kevin Parry ar 01286 678590
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 06.03.2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd.pdf
Manylion Person Nodweddion personolHanfodol • Gallu I weithio mewn modd gwrth ormesol
• Gallu I gyfrannu I drafodaethau a chyfarfodydd
• Gallu I reoli a blaenoriaethu gwaith a gweithredu'n effeithiol dan bwysau
• Parodrwydd I weithio yn hyblyg
• Gallu I weithio dan gyfarwyddid a derbyn adborth
• Cymhwyster cydnabyddedig gofal plant e.e QCF/NVQ neu gymhwyster cyfatebol Dymunol • Cwrs sylfaenol gofal cymdeithasol Profiad perthnasolHanfodol • Profiad o weithio hefo plant a'u teuluoedd
• Profiad o weithio'n effeithiol gydag eraill
• Profiad o ddarparu adroddiadau ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg
• Profiad o gynllunio a threfnu gwaith yn strwythredig ac yn effeithiol Dymunol • Profiad o reoli
• Profiad o fod wedi cefnogi cydweithwyr yn y man gwaith Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol • Gallu I weithredu fel aelod o dim
• Gallu I gyfarthrebu I safon dda, ar lafar ac yn ysgrifenedig
• Trwydded yrru gyfredol
• Gwybodaeth sylfaenol am ddatblygiad plentyn
• Gwybodaeth am anghenion plant mewn angen
• Gallu cyfarthrebu'n effeithiol gyda phobl ifanc, teuluoedd, cydweithwyr o fewn yr Adran a gweithwyr o asiantaethau eraill.
• Sensitifrwydd, hyblygrwydd a'r gallu I gydweithio fel aelod o dim.
• Gallu I ddehongli a chofnodi digwyddiadau yn gywir a chlir. Dymunol • Gwybodaeth am ddulliau datblygu sgiliau rhiantu
• Gwybodaeth am ddulliau o ddelio ag ymddygiad heriol. Anghenion ieithyddolHanfodolGwrando a Siarad - Lefel Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Darllen a Deall - Lefel Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd. Ysgrifennu - Lefel Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad Pwrpas y swydd • I ddarparu ystod o ymyrraethau cefnogi i blant a'u teuluoedd yn y Gymuned, gan gynorthwyo rheolwr yr uned i gydlynu'r gwaith.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud. Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Goruchwylio staff.
• Cyllid ar gyfer gweithgareddau plant.
• Offer a chyfarpar a ddefnyddir i gludo plant mewn car Prif ddyletswyddau • Cydlynu dyraniad gwaith i staff o ddydd i ddydd, gan gynnwys derbyn cyfeiriadau newydd, dyrannu'r gwaith a chadw cofnodion.
• Mynychu cyfarfodydd cynllunio yn ôl y gofyn, gan gyfrannu at gynlluniau gofal i gyfarfod anghenion y defnyddiwr gwasanaeth.
• Gweithredu fel gweithiwr dynodedig i rai defnyddwyr gwasanaeth, gan arwain ar ddyfeisio rhaglenni gwaith dychmygus ac arloesol i gynorthwyo'r defnyddiwr i ymateb i'r anawsterau a gyflwynir.
• Dirprwyo yn absenoldeb y Rheolwr Adnoddau.
• Cynorthwyo gyda rheoli arian parod ac elfennau eraill o'r gyllideb yn unol â chanllawiau ariannol y Cyngor.
• Cynnig goruchwyliaeth rheolaidd i aelodau staff o fewn y tîm
• Gweithio yn unol a Chanllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a'r Fframwaith Asesu Plant mewn Angen a'u teuluoedd fel aelod o dimau plant a theuluoedd yn y dair ardal o Wynedd gan gynnwys y Tîm Plant yn derbyn gofal.
• Hybu a galluogi Plant a'u Teuluoedd i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned.
• Hybu a galluogi Plant i gyrraedd eu llawn botensial, mewn modd sydd yn hyrwyddo eu lles, iechyd, datblygiad a diogelwch.
• Hyrwyddo dewis personol, galluogi plant a theuluoedd i wneud penderfyniadau ystyriol ac i rhoi rheolaeth i blant a'u teuluoedd dros benderfyniadau sy'n effeithio arnynt hwy.
• Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y plentyn.
• Sicrhau cysondeb mewn darpariaeth, a chydnabod pwysigrwydd y berthynas rhwng plant, teuluoedd a'r darparwr.
• Cynorthwyo a Chefnogi teuluoedd i barhau i ofalu am eu plant.
• Pan fo plentyn yn cael ei dderbyn i ofal yr awdurdod, gweithio mewn partneriaeth a'r rhieni i ddychwelyd y plentyn yn ôl i'w gofal yn gynnar.
• Lleihau risg blant a'u teuluoedd drwy weithio fel rhan o gynllun amddiffyn aml asiantaethol.
• Darparu gwasanaeth goruchwylio cyswllt rhwng plant sydd yn derbyn gofal a'u teuluoedd fel rhan o gynllun gofal llys.
• Paratoi adroddiadau manwl ar gynnwys cyswllt a phlant a'u teuluoedd a chynnwys yr adroddiadau yn ffeil y plentyn.
• Mynychu Cyfarfodydd tîm ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel bo'r angen ac a ystyrir yn addas fan Rheolwr Adnoddau.
• Derbyn goruchwyliaeth gyson.
• Ymgyfarwyddo a Pholisïau, trefniadau a chanllawiau'r Cyngor ynglŷn ag arferion da a materion yn ymwneud ac Iechyd a Diogelwch.
• Mynychu cyrsiau hyfforddi yn ôl cyfarwyddyd.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin. Amgylchiadau arbennig • Angen gweithio oriau hyblyg, dros y penwythnosau ac ar wyliau banc fel bo'r angen.(Gweithio 37 awr dros 5 diwrnod o'r wythnos).
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr