Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, mae arnom ni eisiau i chi ymuno â'n tîm cyfeillgar ac agos i ddarparu cefnogaeth fusnes i'n timau Gofal Cymdeithasol.
Mae gennym ni swydd wag, am gyfnod penodol, yn y tîm Cymorth Busnes i'r Gweithlu.
Bydd y rôl hon yn gyfle i chi weithio fel aelod allweddol o dîm sefydledig a gwerthfawr iawn, gan ddarparu cefnogaeth uniongyrchol i'r tîm Datblygu a Dysgu'r Gweithlu a chefnogi'r holl dimau Gofal Cymdeithasol gyda phrosesau adnoddau dynol a swyddogaethau Dysgu a Datblygu.
Bydd eich cydweithwyr yn eich cefnogi a'ch mentora wrth i chi ymgymryd â gwahanol gyfrifoldebau.
Bydd eich gwaith yn cynnwys helpu rheolwyr gyda recriwtio, hyfforddi staff ac anghenion datblygu. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddog Datblygu'r Gweithlu ac yn darparu cymorth busnes cynhwysfawr ar gyfer trefnu a rheoli digwyddiadau dysgu amrywiol.
Bydd gennych chi sgiliau gwrando, cadw cofnodion a theipio da. Mae lefel uchel o onestrwydd, gwydnwch a thawelwch dan bwysau yn bwysig. Mae gallu rhoi sylw i fanylion hefyd yn bwysig i'r swydd.
Rydym ni'n deall pwysigrwydd cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd. Rydym ni'n cynnig opsiynau gweithio'n hyblyg, a gallwn drafod hynny yn ystod eich cyfweliad.
Mae'r swydd yn caniatáu dulliau gweithio hybrid. Gallwch rannu eich amser rhwng gweithio gartref ac yn ein swyddfa fodern ym Mae Colwyn.
Os hoffech chi ddysgu mwy, rydym ni'n fwy na pharod i sgwrsio efo chi am y swydd. Mae croeso i chi gysylltu â Sarah os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu i ddod i'n hadnabod ni'n well.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sarah Gibbs, Uwch Weinyddwr a Swyddog Cyswllt Gwasanaethau, 01492 574073 sarah.gibbs@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i sgwrsio'n rhwydd gyda chwsmeriaid yn Gymraeg ar lefel 3 yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr