Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, mae arnom ni eisiau i chi ymuno â'n tîm cyfeillgar ac agos i ddarparu cefnogaeth fusnes i'n Timau Gofal Cymdeithasol.
Yn sgil estyniad o fewn ein Gwasanaethau Plant sy'n Derbyn Gofal, rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol - Cefnogaeth Fusnes y Gweithlu ychwanegol am gyfnod penodol tan fis Ebrill 2027
Mae hwn yn gyfle gwych i chwarae rôl allweddol mewn tîm sefydledig ac uchel ei barch. Byddwch yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i Wasanaethau'r Gweithlu i helpu Timau Gofal Cymdeithasol gyda phrosesau Adnoddau Dynol a gweithgareddau Dysgu a Datblygu. Byddwch yn cael eich cefnogi a'ch mentora bob cam o'r ffordd gan gydweithwyr profiadol, wrth i chi ymgymryd ag ystod o gyfrifoldebau.
Bydd eich gwaith yn cynnwys, ond nid yw wedi'i gyfyngu i, helpu rheolwyr gyda recriwtio a chadw staff a helpu gydag anghenion hyfforddi a datblygu. Byddwch yn gweithio'n agos â Swyddogion Datblygu'r Gweithlu i gydlynu a rheoli digwyddiadau dysgu.
Bydd gennych sgiliau gwrando cryf, ac yn gallu cadw cofnodion a theipio, ac â llygad craff am fanylder. Mae uniondeb, cadernid a gallu osgoi cynhyrfu dan bwysau'n nodweddion hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Rydym ni'n deall pwysigrwydd cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd. Rydym ni'n cynnig opsiynau gweithio'n hyblyg, a gallwn drafod hynny yn ystod eich cyfweliad.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Os hoffech chi gael gwybod mwy, byddem yn hapus i gael sgwrs anffurfiol. Mae croeso i chi gysylltu â Sarah os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu i ddod i'n hadnabod ni'n well.
Manylion y Rheolwr i gael sgwrs am y swydd: Sarah Gibbs, Uwch Weinyddwr a Swyddog Cyswllt Gwasanaethau, 01492 574073 - sarah.gibbs@conwy.gov.uk neu Sharon Garland, Rheolwr Adain y Gweithlu, 01492 575618 - sharon.garland@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i sgwrsio'n rhwydd gyda chwsmeriaid yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch âr rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr