Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Rôl
Swyddog gweithredol ar gyfer cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn ond mae angen gweithio yng Nghonwy a Sir Ddinbych
Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth a helpu pobl ifanc i newid eu bywydau?
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych yn chwilio am unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â'n tîm fel Swyddog Gwneud Iawn. Yn y rôl hon, byddwch yn cydlynu ac yn darparu cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc i wneud yn iawn am y niwed a achoswyd gan eu troseddau, gan eu helpu i gymryd cyfrifoldeb a gwneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymunedau.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano: • Sgiliau cyfathrebu a threfnu cryf • Gallu ymgysylltu â phobl ifanc a'u cymell • Ymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc • Sgiliau iaith Gymraeg (hanfodol)
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig: • Amgylchedd tîm cefnogol a chydweithredol • Cyfleoedd i wneud gwir effaith ar fywydau pobl ifanc • Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â: Frances Botfield Ffôn: 01492 577367 E-bost: frances.botfield@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr