Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G07 £31,537 - £33,143 y flwyddyn
Dros Dro (31/03/2026)
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn chwilio am unigolyn cadarnhaol, brwdfrydig, trefnus, hyblyg ac sydd ag empathi ar gyfer y swydd hon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm Estyn Allan sydd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd drwy ddarparu gwasanaeth estyn allan yn y gymuned a gweithio gyda theuluoedd ar sail unigol. Fe all hyn gynnwys teuluoedd gyda phlant sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol, teuluoedd sy'n geiswyr lloches neu'n ffoaduriaid, rhieni sy'n disgwyl plentyn yn ogystal â rhieni plant hÅ•n. Byddai'r swydd yn cynnwys cefnogi'r teuluoedd hynny i gyrraedd gwasanaethau.
Mae angen gwybodaeth ragorol am y gwasanaethau sydd ar gael ar hyd a lled Wrecsam a'r materion sy'n wynebu teuluoedd ar gyfer y swydd hon. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus gael y sgiliau i gynnal trafodaeth "Beth sy'n bwysig" gyda theuluoedd a nodi'r materion allweddolar gyfer y teulu hwnnw a'r gwasanaethau sy'n gallu helpu.
I gael ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â Lisa Atherton 01978 292659
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.