Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae gennym gyfle i'r unigolyn iawn ymuno â'r tîm Hawliau Lles prysur.
Diben pennaf y swydd fydd cynorthwyo wrth ddarparu gwasanaeth Hawliau Lles effeithlon, effeithiol a chynhwysfawr i bobl Conwy, gan weithio mewn partneriaeth â darparwyr gwasanaethau eraill i hyrwyddo amrywiaeth helaeth o fudd-daliadau.
Bydd gofyn ichi nodi i ba raddau y mae pobl yn manteisio a sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth a'u gofalwyr yn derbyn cymaint o incwm â phosibl.
Bydd yr ymgeisydd iawn yn medru codi ymwybyddiaeth o'r holl fudd-daliadau lles ac annog pobl i'w hawlio, gan chwalu'r rhwystrau sydd fel arfer yn atal pobl rhag hawlio. Bydd gofyn ichi weithio ar achosion, gan gynnwys paratoi a chyflwyno apeliadau i'r Tribiwnlys.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd â sgiliau TG da ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth Lles a Budd-daliadau, sy'n medru gweithio dan bwysau ac ar ei menter neu fenter ei hun, bod yn hyblyg a meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog. Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yn ein swyddfa yng Nghoed Pella bum diwrnod yr wythnos.
Mae'n hanfodol gallu cyfathrebu yn Saesneg a gallu sgwrsio'n rhwydd gyda chwsmeriaid yn Gymraeg.
Wrth lenwi eich ffurflen gais, nodwch enghreifftiau fel tystiolaeth o'ch profiad.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Byddai'n fuddiol meddu ar ddealltwriaeth o ofal cymdeithasol, ond gellir dysgu hynny wrth eich gwaith.
Buddion: - Goruchwyliaeth gyson gan eich Rheolwr Tîm - Mynediad i hyfforddiant drwy Ofal Cymdeithasol a rhaglenni hyfforddiant Corfforaethol, yn ogystal â hyfforddiant allanol os yw'n briodol. - Bod yn rhan o sefydliad sy'n sicrhau arferion gweithio diogel a chefnogol drwy bolisïau cadarn ar gyfer gweithwyr. - Mynediad i nifer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys Buddion Conwy a Ffit Conwy. - Gweithio mewn swyddfa bwrpasol sy'n agos at nifer o siopau, lleoedd bwyd o safon a choffi da!
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Ruth Barr, Rheolwr Tîm ( Ruth.barr1@conwy.gov.uk , 01492 574668 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr