Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Rydym am recriwtio unigolyn llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm cyfeillgar a phrysur.
Eich rôl fydd gweithio ochr yn ochr ag aelodau o'r gymuned, gan eu cefnogi i nodi, cynllunio a datblygu gweithgareddau/grwpiau lles cynaliadwy.
Mae profiad datblygu cymunedol, profiad o arwain prosiectau cymunedol a chwblhau ceisiadau cyllido llwyddiannus yn sgiliau hanfodol sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hon.
Bydd eich cymhelliant, gallu i ysbrydoli eraill, sgiliau trefnu, profiad o reoli amryfal brosiectau a darparu o fewn amserlenni tynn yn amhrisiadwy ar gyfer y rôl hon.
Mae'r gallu i deithio ledled sir Conwy yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Sicrhewch eich bod yn dangos, gan ddefnyddio esiamplau, sut rydych yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol ar y fanyleb swydd, er mwyn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lydia Mottershead ar 01492 577714.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Lydia Mottershead, Arweinydd Tîm Lles Cymunedol ( lydia.mottershead@conwy.gov.uk / 01492 577714)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr