Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1217
Sefydliad: Llesiant Delta
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract: 31 Mawrth 2026
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd F
Cyflog: £27,711 - £31,586
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £14.36 - £16.37
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm Ydych chi'n angerddol am gefnogi unigolion agored i niwed a hybu annibyniaeth?
Mae Llesiant Delta yn chwilio am weithwyr proffesiynol gofalgar, llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm fel Swyddogion Llesiant Cymunedol mewn ysbytai.
Mae Llesiant Delta yn gwmni masnachu awdurdod lleol sydd wedi ennill gwobrau ac yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer Gofal trwy Gymorth Technoleg i gefnogi pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol. Mae wedi tyfu'n sylweddol ers ei sefydlu yn 2018 ac mae'n darparu gwasanaeth monitro galwadau dwyieithog 24/7 a gwasanaethau cymorth eraill, gan gynnwys monitro larymau teleofal a theleiechyd, gosod Gofal trwy Gymorth Technoleg, ymateb lles cymunedol, monitro gweithiwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain ac atgyweiriadau tai y tu allan i oriau arferol ar gyfer awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cymdeithasau tai, lleoliadau addysgol, cwmnïau preifat a phreswylwyr.
Yn y rôl hanfodol hon, chi fydd yr un pwynt cyswllt gan ddarparu cyngor, gwybodaeth a chymorth ar gyfer holl anghenion gofal cymdeithasol a gwasanaeth iechyd, gan weithio mewn amrywiol adeiladau'r GIG yn Sir Gaerfyrddin. Byddwch yn gweithio'n agos gyda thimau amlddisgyblaethol yn yr ysbyty i sicrhau'r canlyniadau gorau i gleientiaid trwy asesiadau, cynllunio eu rhyddhau yn ddiogel o'r ysbyty, a'u cysylltu â gwasanaethau ataliol yn y gymuned.
Fel Swyddog Llesiant Cymunedol, byddwch yn defnyddio'ch sgiliau cyfathrebu i gasglu gwybodaeth, gwerthuso risgiau a chymhwysedd, ac yn cynnig cyngor wedi'i deilwra dros y ffôn, ar-lein neu wyneb yn wyneb wrth wneud ymweliadau â'r ysbyty. Byddwch yn grymuso oedolion agored i niwed a'u gofalwyr drwy roi llais iddynt yn eu gofal, gan hybu annibyniaeth ac integreiddio cymdeithasol. Bydd eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn amhrisiadwy wrth ddarparu ymatebion cyflym, cwrtais a chywir yn ystod sefyllfaoedd argyfyngus.
Ar gyfer y rôl hon, bydd angen arnoch NVQ4 mewn Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth neu gymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyfwerth
Dylai ymgeiswyr fod â dealltwriaeth dda o gyfrifiaduron a gwybodaeth am Microsoft Office. Dylech feddu ar wybodaeth ymarferol am ddeddfwriaeth berthnasol, cywirdeb rhagorol, a'r gallu i ffynnu mewn amgylchedd sy'n symud yn gyflym.
Byddwch yn derbyn rhaglen hyfforddiant sefydlu gynhwysfawr pan fyddwch yn ymuno â ni, a hyfforddiant parhaus i'ch helpu i ddatblygu.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ymuno â thîm Llesiant Delta a chael effaith ystyrlon ar eich cymuned.
Mae'n drosedd i rywun wneud cais am waith neu wirfoddoli am waith y mae wedi'i wahardd rhag ei wneud drwy restrau gwahardd y DBS.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Lindsey Kearney drwy ffonio 0300 333 2222 neu drwy e-bostio Lindsey.Kearney@DeltaWellbeing.org.uk
Disgrifiad Swydd: 028800.pdf - 308KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 31/01/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.