Oriau gwaith: 18.5 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Rhan Amswer
Lleoliad: Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm comisiynu Gwasanaethau Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £17,157 - £18,517 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r rôl yn canolbwyntio ar sicrhau ansawdd, diogelu a chydymffurfio â chontractau.
Bydd deiliad y swydd yn monitro gwasanaethau/contractau wedi'u comisiynu ym maes gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys monitro ar y cyd gyda chydweithwyr ym maes iechyd a chysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru pan fo angen er mwyn gwneud argymhellion priodol i wella ansawdd gwasanaethau a chynorthwyo'r gwaith o reoli perfformiad gwael, gan uwchgyfeirio pryderon fel mater o flaenoriaeth.
Byddwch chi'n datblygu, cynnal a chyfrannu at amrywiaeth o systemau gwybodaeth effeithiol i hwyluso monitro, gwerthuso ac adolygu perfformiad gwasanaethau lleol, gweithgarwch a sefydlogrwydd y farchnad gofal cymdeithasol yn y Fwrdeistref Sirol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 3 ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
- Profiad o weithio mewn lleoliad gofal neu faes gwasanaeth sy'n dangos cyfrifoldeb gweithredol am reoli darparu gwasanaethau i oedolion agored i niwed a meddu ar gymhwyster lefel 5 ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru neu wedi ymrwymo i'w gyflawni o fewn 2 flynedd ar ôl eich penodi.
- Neu addysg hyd at lefel gradd.
- Y gallu i deithio o fewn ffiniau Bwrdeistref Sirol Caerffili sawl gwaith drwy gydol y diwrnod gwaith o fewn cyfnod penodol i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Andrew Davies ar 07808 251556 neu ebost:
daviea14@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.