Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2505
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
31 Mawrth 2028
Lleoliad:
Caerfyrddin
Gradd:
Gradd F
Cyflog:
£28,598 - £32,597
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.82 - £16.90
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Monitro Contract brwdfrydig iawn i ymuno â'n tîm sy'n tyfu, mae angen profiad o gomisiynu gan gynnwys monitro contractau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o'r Tîm Cynllunio, Perfformiad a Chomisiynu, sy'n ymroddedig i ddarparu atebion arloesol i heriau cymdeithasol cymhleth.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd fonitro ac adolygu contractau parhaus a chontractau newydd, gan sicrhau bod y gwasanaethau a gomisiynir yn briodol, yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc, o ansawdd uchel ac yn darparu gwerth da am arian. Byddwch yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys darparwyr, er mwyn sicrhau bod contractau'n cael eu darparu'n llyfn.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a all roi sylw uchel i fanylion, monitro ac adolygu'r pecynnau comisiwn a ddarperir o fewn gwasanaethau plant.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau dadansoddi a datrys problemau ardderchog, lefel uchel o gywirdeb a sylw i fanylion, cyfathrebu rhagorol, a sgiliau rhyngbersonol a hyfedr yn Microsoft Office Suite (Word, Excel, PowerPoint).
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag Elen Jones, Swyddog Comisiynu (Anghenion Cymhleth) 01267 246548 elijones@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
034025.pdf - 205KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 08/12/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.