Byddwch yn gyfrifol am gynnal ymweliadau sicrhau ansawdd/monitro contractau gyda'r holl ddarparwyr a gomisiynir (yn y sir ac mewn unrhyw leoliadau a gomisiynir y tu allan i Geredigion) a darpariaeth fewnol, yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn cael eu darparu yn unol â Rheoliadau R.I.S.C.A ac yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y darparwr yn cydymffurfio â'u trefniadau cytundebol ac yn darparu gwasanaeth o'r ansawdd uchaf o ran safon y gofal ar gyfer plant ac oedolion. Yn dilyn pob ymweliad, byddech yn hysbysu'r darparwyr o'r cryfderau sy'n amlwg yn y gwasanaeth a ddarparir, a hefyd, byddech yn hysbysu'r meysydd lle y ceir pryder/risg, ac y mae angen rhoi sylw iddynt, a byddwch yn gwneud argymhellion am y ffordd y gallai'r gwasanaeth wella a byddwch yn gweithio gyda darparwr i'w cynorthwyo i wella eu gwasanaeth.
Byddai sicrhau bod lleisiau plant, oedolion a'u teuluoedd sy'n defnyddio'r gwasanaethau yr ydych chi'n eu monitro yn cael eu clywed trwy gydol y broses fonitro, yn rhan hanfodol o'ch rôl, a bod eu safbwyntiau nhw yn helpu i gryfhau ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu cael.
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i ymwreiddio'r Fframwaith Arfer Llesiant ac Arwyddion Diogelwch ac rydym yn buddsoddi mewn trawsnewid ein prosesau ac mewn hyfforddi ein staff i nodi a rheoli risg niwed mewn ffordd ddiogel, gan ddatblygu cydnerthedd pobl i gynyddu diogelwch a lles.
Byddech yn rhan o ffordd o weithio ar ffurf Partneriaeth Ranbarthol a lleol aml-asiantaeth ymroddedig a chadarn sy'n ceisio cyflawni'r canlyniadau o ansawdd gorau i blant, oedolion a'u teuluoedd, gyda'ch gilydd.
Pryd bynnag y bo modd, rydym yn chwilio am unigolion sy'n meddu ar sgiliau Cymraeg. Fodd bynnag, byddai ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg gofynnol yn cael eu cynorthwyo'n llawn i gyflawni'r safon ddymunol cyn pen 2 flynedd o gael eu penodi.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrediad o fuddion i chi fel cyflogai, gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfrannu i bensiwn hael. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i gyflogeion
yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid:Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi:Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Paul Portman-Barnard, Rheolwr Tim Sicrhau Ansawedd:
Paul.portman-barnard@ceredigion.gov.uk/ 01545 574226
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy