Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1593
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Gwybodaeth am Dai
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract: 31 Mawrth 2026
Lleoliad: Llanelli
Gradd: Gradd G
Cyflog: £31,067 - £35,235
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £16.10 - £18.26
Oriau Contract: 37 awr
Dewch i ymuno â'n tîm Rydym am benodi unigolyn ymroddedig a chryf ei gymhelliant i ymuno â'n tîm.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd am fod yn rhan o dîm deinamig a gweithio mewn gwasanaeth sy'n datblygu ac yn newid.
Mae'r Porth Cymorth Tai yn darparu un llwybr unigol i wasanaethau cymorth tai a dull symlach o ddyrannu atgyfeiriadau a sicrhau'r cymorth cywir ar yr adeg gywir. Mae hefyd yn galluogi'r awdurdod lleol i fonitro'r atgyfeiriadau hynny drwy eu taith asesu a chymorth, er mwyn deall lefel yr angen, y cymorth a ddarperir, a chanlyniadau'r ymyriad.
Mae swydd Swyddog Monitro'r Porth yn gyfrifol am gefnogi'r gwaith o weithredu systemau a phrosesau ar gyfer y Porth Cymorth Tai a phrosiectau sy'n ymwneud â gwasanaethau a gomisiynir o dan y Grant Cymorth Tai. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n agos gyda darparwyr cymorth o fewn gwahanol sectorau sy'n cael eu comisiynu gan y Cyngor i ddarparu cymorth tai yn fewnol ac yn allanol.
Mae hon yn rôl sy'n gofyn am gyfathrebu rhagorol a'r gallu i feithrin perthynas waith gadarnhaol gydag ystod o Ddarparwyr, Defnyddwyr Gwasanaethau a Gweithwyr Proffesiynol.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch ac Alun Jones, Arweinydd Rhaglen Grant Cymorth Tai, ar aldjones@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 026706.pdf - 197KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 19 Mai 2025
Lefel DBS: Bydd gwiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 30/04/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.