Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1120
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Cysylltu Bywydau
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd F
Cyflog: £27,711 - £31,586
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £14.36 - £16.37
Oriau Contract: 37 awr
Dewch i ymuno â'n tîm Ydych chi'n angerddol dros gydgynhyrchu, ymgysylltu â'r gymuned a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl?
Mae Cysylltu Bywydau yn ffordd hynod lwyddiannus o gefnogi pobl i fyw yn eu cymunedau fel rhan o deulu, cael dewis a rheolaeth dros eu gofal a'u cymorth ac sydd â dull seiliedig ar gryfderau yn ganolog i'r cyfan. Mae'n seiliedig ar berthnasoedd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau unigolion a'u gofalwyr Cysylltu Bywydau.
Mae cyfle cyffrous ar gael i weithiwr profiadol ymuno â Thîm Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru. Rydym yn chwilio am unigolyn cadarnhaol, sy'n canolbwyntio ar atebion ac yn llawn cymhelliant ac sy'n ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth yn eu gwaith.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm cyfeillgar, cefnogol sy'n gyfrifol am recriwtio, asesu, a hyfforddi gofalwyr Cysylltu Bywydau. Rydym yn rhoi gwerth ar gydweithio a grymuso unigolion i lunio'r cymorth y maent yn ei dderbyn a datblygiad parhaus y gwasanaeth.
Fel Cydgysylltydd Ardal, byddwch yn gyfrifol am gynnal llwyth achosion y cytunwyd arno o unigolion a Gofalwyr Cysylltu Bywydau, gan dderbyn y cyfrifoldeb cyffredinol am ddarparu trefniadau, paru unigolion sydd angen cymorth â'r gofalwyr mwyaf priodol a datblygu Cynlluniau Personol / cytundebau unigol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pob trefniant. Byddwch yn cynnal asesiadau a monitro Gofalwyr Cysylltu Bywydau er mwyn iddynt gadw eu statws cymeradwyo gan gysylltu ag asiantaethau perthnasol, aelodau o'r teulu ac unigolion.
Fel Cydgysylltydd Ardal byddwch hefyd yn gyfrifol am oruchwylio Gweithwyr Cymorth Cysylltu Bywydau, dyrannu eu llwyth achosion a monitro / adolygu eu gwaith a'u datblygiad personol.
Bydd y rôl yn ein prif swyddfa yng Nghaerfyrddin a bydd yn cynnwys gwaith seiliedig ar ardal yn Sir Gaerfyrddin. Byddwch yn gallu defnyddio ein ceir adrannol ar gyfer teithio.
Os oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o weithio mewn lleoliad gofal cymdeithasol neu iechyd, a phrofiad o ymgysylltu'n ystyrlon â'r gymuned, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gennych.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
- David Bevan - 01267 246890 - dmbevan@carmarthenshire.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 026546.pdf - 201KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 28/01/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.