Ydych chi eisiau ymuno â thîm bywiog a chreadigol, yn gweithio gyda darparwyr gwasanaeth sy'n cefnogi pobl i fyw bywydau hapus ac iach?
Mae cyfle newydd wedi codi yn nhîm comisiynu Cyngor Sir Penfro ac rydym yn chwilio am rywun sydd â diddordeb cryf mewn gofal cymdeithasol i gefnogi gofalwyr di-dâl yn y sir. Credwn yn angerddol y dylid cefnogi unigolion i ymarfer dewis a rheolaeth dros eu bywydau er mwyn cynnal eu rôl ofalu.
Mae'r tîm yn cefnogi amrywiaeth o ddarparwyr gofal cymdeithasol a thrydydd sector i ddatblygu cymorth personol, sy'n sicrhau bod llais yr unigolyn yn ganolog i bob penderfyniad. Mae ein meysydd gwasanaeth yn cynnwys, pobl hŷn, pobl oedran gweithio ag anableddau dysgu, plant, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl, gwasanaethau tai, gofalwyr di-dâl ac eiriolaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud y canlynol:
- Cefnogi swyddogion comisiynu a rheoli contract yn effeithiol i sefydlu a rheoli contractau gwasanaethau oedolion, pobl ifanc a chymunedol i sicrhau gwerth am arian, ansawdd a pherthnasedd strategol.
- Gweithio gyda darparwyr i ddatblygu a chefnogi'r farchnad wrth ddefnyddio technegau meddwl yn greadigol a datrys problemau o fewn cwmpas canllawiau / gofynion Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Cefnogi wrth ddatblygu a gweithredu systemau sicrhau ansawdd, prosesau monitro ac adolygu ar gyfer yr holl wasanaethau wedi'u comisiynu a'u contractio i sicrhau bod safonau gwasanaeth yn cael eu bodloni a bod canlyniadau gofynnol yn cael eu cyflawni.
Mae'n rhaid i chi feddu ar y canlynol:
Profiad o weithio mewn amgylchedd gofal cymdeithasol neu amgylchedd tebyg, neu weithio gyda gwasanaethau o'r fath, er enghraifft yn y sector cymunedol a gwirfoddol, gwasanaethau tai, am dâl neu'n ddi-dâl.
Y gallu i weithio gydag aelodau o'r gymuned, defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau gwirfoddol i hyrwyddo dull gynhwysol a'u cynnwys yn natblygiad gwasanaethau.
Y gallu i ddadansoddi a dehongli data mesurol ac ansoddol.
Y gallu i deithio o amgylch y sir i ymgymryd ag ymweliadau safle sydd wedi'u cynllunio ac ar alw.
Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno ceisiadau ar-lein. Os na allwch wneud hyn, cysylltwch â'r Gweinyddwr Recriwtio cyn gynted â phosibl ar 01437 776358. Yn ogystal â hyn, os oes gennych unrhyw anghenion pellach, neu os oes angen unrhyw gefnogaeth bellach arnoch yn y broses recriwtio, cysylltwch â ni ar 01437 776358 neu drwy anfon neges e-bost at recruit@pembrokeshire.gov.uk Os ydych chi eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau llenwi ffurflen gais.Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.Gwiriadau CyflogaethMae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.Diogelu Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol - Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.