Ydych chi eisiau ymuno â thîm bywiog a chreadigol, yn gweithio gyda darparwyr gwasanaeth sy'n cefnogi pobl i fyw bywydau hapus ac iach?
Mae cyfle wedi codi yn nhîm comisiynu Cyngor Sir Penfro ac rydym am benodi rhywun sydd â diddordeb gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol. Rydym yn credu'n gryf y dylai pobl gael eu cefnogi i arfer dewis a rheolaeth dros eu bywydau a byw mor annibynnol â phosib.
Mae'r tîm yn cefnogi amrywiaeth o ddarparwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu cymorth personol, sy'n sicrhau bod llais yr unigolyn yn ganolog i'w holl benderfyniadau. Mae ein meysydd gwasanaeth yn cynnwys pobl hŷn, pobl oedran gwaith ag anableddau dysgu, plant, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl, gwasanaethau tai, gofalwyr ac eiriolaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud y canlynol: - Cefnogi swyddogion comisiynu a rheoli contractau yn effeithiol i sefydlu a rheoli contractau'r Gwasanaeth Oedolion a Chymunedol i sicrhau gwerth am arian, ansawdd a pherthnasedd strategol.
- Gweithio gyda darparwyr i ddatblygu a chefnogi'r farchnad wrth ddefnyddio technegau meddwl yn greadigol a datrys problemau o fewn cwmpas canllawiau/gofynion Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Cefnogi gwaith datblygu a gweithredu systemau sicrhau ansawdd, prosesau monitro ac adolygu ar gyfer yr holl wasanaethau wedi'u comisiynu a'u contractio i sicrhau bod safonau gwasanaeth yn cael eu bodloni a bod canlyniadau gofynnol yn cael eu cyflawni.
Mae'n rhaid i chi feddu ar y canlynol: - Profiad o weithio mewn amgylchedd gofal cymdeithasol neu amgylchedd tebyg, neu weithio gyda gwasanaethau o'r fath, er enghraifft, yn y sector cymunedol a gwirfoddol, gwasanaethau tai, am dâl neu'n ddi-dâl.
- Y gallu i weithio gydag aelodau o'r gymuned, defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau gwirfoddol i hyrwyddo dull gynhwysol a'u cynnwys yn y broses datblygu gwasanaethau.
- Y gallu i ddadansoddi a dehongli data mesurol ac ansoddol.
- Y gallu i deithio o amgylch y sir i ymgymryd ag ymweliadau safle sydd wedi'u cynllunio ac ymweliadau ymatebol.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.Gwiriadau CyflogaethMae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.Diogelu Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol - Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.