Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Tîm: Gwasanaethau Tai
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £27,711 - £30,060 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Hoffech chi fod yn rhan o dîm deinamig sy'n darparu Cymorth Tai i breswylwyr sy'n byw mewn cynlluniau tai lloches ledled y Fwrdeistref Sirol? Os felly, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â chynlluniau cymorth a’u hadolygu nhw, cyfeirio at asiantaethau eraill, monitro lles, annog rhyngweithio cymdeithasol a sicrhau cydymffurfio ag iechyd a diogelwch. Byddwch chi’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth sy'n galluogi preswylwyr i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel, yn ogystal â gweithio gyda thimau tai eraill i gynnal rheolaeth dai briodol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 2 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, neu Dystysgrif Genedlaethol mewn Tai â Chymorth.
- Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a deddfwriaeth Cefnogi Pobl.
- Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y DU a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymateb i unrhyw faterion mewn cynllun tai lloches.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Alyson Colman / Joanne Winston ar 01443811424 / 01443811426 neu ebost:
colmaa@caerphilly.gov.uk /
winstje@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.