Ydych chi'n drefnus? Ydych chi'n gallu siarad gyda phobl ar y ffôn? Ydych chi'n gallu gweithio'n rhan o dîm? Ydych chi wedi arfer gweithio'n gyflym? Yna efallai mai dyma'r swydd i chi!
Mae'r Tîm Un Pwynt Mynediad rŵan yn rhan o'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cymorth a Chyngor sy'n helpu aelodau o'r cyhoedd, eu teuluoedd ac unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n eu cefnogi, i gael gafael ar y wybodaeth gywir ar yr adeg gywir.
Ydych chi'n dda am gael y wybodaeth orau allan o bobl i ymateb i'w ymholiad yn gyflym? Byddwn yn eich darparu â hyfforddiant a chefnogaeth i'ch galluogi i ganfod y camau nesaf mwyaf priodol; gwneud atgyfeiriadau a/neu gyfeirio galwyr at y cymorth cywir. Byddwch angen llawer o wytnwch personol, ond byddwn yn eich helpu i fagu hyder mewn delio â sefyllfaoedd heriol.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol, ac mae'r gallu i sgwrsio'n gartrefol gyda chwsmeriaid yn Gymraeg hefyd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Wrth lenwi eich ffurflen gais, dylech ddarparu enghreifftiau sydd yn dangos eich profiad.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Bydd dealltwriaeth o ofal cymdeithasol o gymorth, ond gellir ei dysgu yn ystod eich amser yn y swydd.
Buddion: - Goruchwyliaeth Reolaidd gan eich Rheolwr Tîm
- Mynediad i hyfforddiant drwy Ofal Cymdeithasol a rhaglenni hyfforddiant Corfforaethol, yn ogystal â hyfforddiant allanol os yw'n briodol.
- Bod yn rhan o sefydliad sy'n sicrhau arferion gweithio diogel a llawn cefnogaeth, drwy bolisïau gweithwyr cadarn.
- Mynediad i nifer o fuddion gweithwyr, gan gynnwys Buddion Conwy, a Ffit Conwy.
- Gweithio mewn gofod swyddfa pwrpasol, sy'n agos i nifer o siopau, lleoedd bwyd o safon a choffi da!
Siaradwch â ni:Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael gwybod rhagor am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Ruth Barr, Un Pwynt Mynediad a Hawliau Lles
E-bost: Ruth.barr1@conwy.gov.uk Ffôn: 01492 574668
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Ruth Barr, Rheolwr Tim ( Ruth.barr1@conwy.gov.uk / 01492 574668)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.