Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
A ydych yn chwilio am swydd werthfawr?
Mae Galw Gofal yn wasanaeth monitro galwadau dwyieithog sy'n weithredol bob awr o'r dydd ac yn darparu help a chymorth i bobl hŷn a diamddiffyn i'w galluogi i aros yn annibynnol ac i'r cyhoedd gydag argyfyngau y tu allan i oriau e.e. gwaith atgyweirio tai.
Byddwch yn darparu gwasanaethau sy'n cynnwys monitro Teleofal, Pobl sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain a galwadau y tu allan i oriau.
Oherwydd estyniadau'r contract a thwf busnes, mae Galw Gofal yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant i ymuno â'r tîm o swyddog ymateb a chefnogi galwadau. Ai chi yw'r person hwn?
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff, yn cynnwys ceir aberthu cyflog, Beicio i'r Gwaith, gofal iechyd arian-yn-ôl, gwobrau gwasanaeth hir, gostyngiadau a llawer mwy.
Bydd angen agwedd bositif arnoch chi yn ogystal â sgiliau cyfathrebu ardderchog ac addysg o safon dda gan gynnwys TG gyda'r gallu i ddefnyddio'ch menter eich hun.
Bydd disgwyl i chi ddangos gonestrwydd a chyfrinachedd ar lefel uchel oherwydd pa mor hanfodol yw'r gwasanaeth i fywydau pobl a natur sensitif y gwasanaeth. Rhoddir hyfforddiant llawn.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun fetio yn unol â BS7858.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nick McCavish, Rheolwr Strategol Rhanbarthol ( nick.mccavish@conwy.gov.uk / 01492 575240)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr