Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
A ydych yn chwilio am swydd werthfawr?
Mae Galw Gofal yn wasanaeth monitro galwadau 24 awr ddwyieithog sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i bobl hŷn a bregus gan ddefnyddio gwasanaethau Teleofal i gynnal eu hannibyniaeth, a hefyd i'r cyhoedd gyda gwasanaethau delio â galwadau tu allan i oriau swyddfa ar gyfer nifer o Gynghorau, Cymdeithasau Tai a Busnesau Preifat e.e. Atgyweirio Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol, Priffyrdd, Digartrefedd, Digwyddiadau Argyfwng.
Byddwch yn darparu gwasanaethau sy'n cynnwys monitro galwadau Teleofal, Gweithwyr sy'n Gweithio ar eu Pen eu Hunain a Thu Allan i Oriau Swyddfa ac yn darparu cefnogaeth dros y ffôn i amryw o ymholiadau gwahanol, a all gynnwys sefyllfaoedd sy'n peryglu bywyd megis digwyddiadau meddygol, cwympiadau yn y cartref a thanau mewn tai.
Oherwydd estyniadau i gontractau a thwf busnes, mae Galw Gofal yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant i ymuno â'r tîm o swyddogion ymateb a chefnogi galwadau. Ai chi yw'r person hwn?
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff sy'n cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, Beicio i'r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gostyngiadau a llawer mwy. Ar ôl cwblhau cyfnod prawf o 6 mis mae cyfle i weithio o gartref.
Bydd angen agwedd bositif arnoch chi yn ogystal â sgiliau cyfathrebu ardderchog ac addysg o safon dda gan gynnwys TG gyda'r gallu i ddefnyddio'ch menter eich hun.
Bydd disgwyl i chi ddangos gonestrwydd a chyfrinachedd ar lefel uchel oherwydd pa mor hanfodol yw'r gwasanaeth i fywydau pobl a natur sensitif y gwasanaeth. Darperir cefnogaeth a hyfforddiant llawn.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad yn unol â BS7858.
Unwaith i chi gofrestru eich diddordeb yn y rôl bydd Swydd-ddisgrifiad llawn a Manylion am yr Unigolyn yn cael ei anfon ar e-bost i chi. I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Nick McCavish, Rheolwr Strategol Rhanbarthol, ar 01492 575240.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nick McCavish, Rheolwr Strategol Rhanbarthol ( nick.mccavish@conwy.gov.uk / 01492 575240)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr