Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Ydych chi'n chwilio am yrfa sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn?
Mae Galw Gofal yn wasanaeth dwyieithog sy'n monitro galwadau 24/7 ac yn cefnogi pobl hŷn a phobl ddiamddiffyn, drwy Teleofal, gan eu helpu i fyw'n annibynnol. Rydym hefyd yn ymdrin â galwadau tu allan i oriau ar gyfer ystod eang o wasanaethau, yn cynnwys atgyweiriadau tai, gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, digartrefedd, a digwyddiadau brys, ar ran cynghorau, cymdeithasau tai, a busnesau preifat. Fel rhan o'n tîm sy'n prysur dyfu, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i alwadau sy'n amrywio o ymholiadau cyffredinol i sefyllfaoedd difrifol megis argyfyngau meddygol, codymau a thanau mewn tai. Byddwch yn cefnogi gwasanaethau sydd wir yn bwysig. Rydym yn chwilio am unigolyn llawn hunan-gymhelliant i ymuno â'm o Swyddogion Ymateb i Alwadau a Chefnogi. Os ydych chi'n unigolyn sy'n ffynnu mewn amgylchedd prysur ac eisiau cael effaith ystyrlon, efallai mai dyma'r swydd i chi.
Beth rydym ni'n ei gynnig: • Pecyn buddion hael yn cynnwys: • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol • Tâl Salwch Galwedigaethol • Cynlluniau aberthu cyflog (ceir, Beicio i'r Gwaith) • Arian yn ôl ar ofal iechyd • Disgownt i staff • Cyfleoedd ar gyfer gweithio hybrid ar ôl cyfnod prawf o 6 mis • Hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus
Beth fydd ei angen arnoch: • Agwedd bositif a sgiliau cyfathrebu rhagorol • Safon dda o addysg a sgiliau TG • Hyder yn defnyddio eich menter eich hun • Lefelau uchel o onestrwydd a chyfrinachedd oherwydd natur sensitif y gwaith • Gallu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad yn unol â safonau BS7858.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Nick McCavish, Rheolwr Strategol Rhanbarthol ar 01492 575240
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nick McCavish, Rheolwr Strategol Rhanbarthol ( nick.mccavish@conwy.gov.uk / 01492 575240)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch âr rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr