Arweinydd / rheolwr / person mewn rheolaeth Dechrau’n Deg
Disgrifiad o'r swydd
Swyddog Ymgynghorol Plentyndod Cynnar a Chwarae Swydd-ddisgrifiad Lleoliad/Canolfan Waith: Canolbarth/Gogledd Powys
Am y rôl: Mae rôl y Swyddog Ymgynghorol Plentyndod Cynnar a Chwarae yn cynnwys gweithio mewn tîm o gynghorwyr arbenigol Blynyddoedd Cynnar a swyddogion datblygu gofal plant, gan gefnogi a herio darparwyr, sy'n cynnig Dechrau'n Deg a darpariaeth gofal plant rheoledig a ariennir a'u cynorthwyo i wella ansawdd y chwarae, y dysgu a'r gofal a gynigir ganddynt yn barhaus i sicrhau gwell canlyniadau i blant. Amdanoch chi: -
Brwdfrydedd i ymdrechu tuag at ganlyniadau cadarnhaol i bob plentyn a theulu - Gweithiwr proffesiynol cymwys yn y blynyddoedd cynnar brwdfrydig a llawn cymhelliant gydag agwedd hyblyg ac ymrwymiad i ddatblygu a darparu gwasanaethau o ansawdd. - Gallu ysgogi eraill - Sgiliau cyfathrebu rhagorol - Meddu ar gymhwyster Gofal Plant cydnabyddedig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Yr hyn y byddwch yn ei wneud: Defnyddio eich sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd i ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant a gweithdai, cynnal ymweliadau lleoliadau a modelu arfer da i Ddechrau'n Deg a darparwyr gofal plant ym Mhowys. Cefnogi darparwyr i nodi a datblygu meysydd i'w datblygu. Darparu cyngor ac arweiniad uniongyrchol i bob lleoliad sy'n darparu gofal plant Dechrau'n Deg ar ddarparu ystod eang a chytbwys o weithgareddau a phrofiadau sy'n briodol i anghenion plant 2-3 oed. Cefnogi'r broses cyn ac ar ôl archwiliad. Mynychu cyfarfodydd tîm rheolaidd a chyfrannu at gyfeiriad strategol y gwasanaeth yn unol ag anghenion a blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg. Cefnogi lleoliadau i nodi a chefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol sy'r amlwg yn gynnar. Darparu cyngor ac arweiniad i ddiwallu anghenion plant unigol a chynllunio ar gyfer trosglwyddo plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn effeithiol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â:
Gemma Kearney recruitment@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manylach
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr