Ydych chi'n frwdfrydig dros ddefnyddio Therapi Galwedigaethol i helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon? Ydych chi'n gwerthfawrogi gweithio mewn sefydliad penderfynol sy'n canolbwyntio ar les? Os felly, parhewch i ddarllen.
Yn dilyn ehangu parhaus y Tîm Therapi Galwedigaethol Llesiant Gydol Oes, crëwyd y rôl - Uwch Therapydd Galwedigaethol er mwyn cydlynu prosesau a gweithgareddau'r tîm brysbennu. Er bod y Rôl yma'n bennaf o fewn y tîm brysbennu, bydd cysylltiadau gwaith agos gyda gofal sy'n cael ei gefnogi gan dechnoleg, y Gwasanaeth galluogi a'r Ganolfan Byw'n Annibynnol ym Mhenmorfa yn allweddol. Bydd hyn yn creu cyfleoedd clinigol cyffrous ac eang ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Mae rôl Uwch Therapydd Galwedigaethol hefyd yn cael ei hysbysebu i oruchwylio'r un maes yn glinigol. Bydd y Therapydd Galwedigaethol cymwys a'r Uwch Therapydd Galwedigaethol yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i ddatblygu gwasanaethau blaengar o fewn Cyngor Ceredigion, gyda chefnogaeth barhaus gan Uwch Therapyddion Galwedigaethol profiadol eraill, rheolwr y tîm a chydweithwyr ym maes gwaith cymdeithasol (fel rhan o'r tîm brysbennu ehangach).
Pwrpas y swydd - Gweithredu sgiliau ac ymagweddau allweddol Therapi Galwedigaethol i gynyddu annibyniaeth o bwynt cyswllt cyntaf y defnyddiwr gwasanaeth neu'r atgyfeiriad.
• Ymateb i anghenion brys drwy gasglu gwybodaeth, cynnal asesiadau a chyflwyno ymyriadau Therapi Galwedigaethol.
• Lleihau risg i ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a theuluoedd.
• Cyfrannu at elfennau Therapi Galwedigaethol o benderfyniadau Tîm Amlddisgyblaethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ystod brysbennu.
• Cefnogi'r Uwch Therapydd Galwedigaethol yn unol â chyfarwyddiadau.
• O dan gyfarwyddyd yr Uwch Therapydd Galwedigaethol - cyfrannu at ddatblygu, cyflwyno a chefnogi staff iau wrth ddarparu dulliau a chyflwyno gwasanaethau (rhithwir, cyngor/gwybodaeth mynediad agored, clinigau, wyneb yn wyneb, fideo, a thechnoleg).
O ddydd i ddydd: Mae'r rôl hon yn rhan o'r Tîm Therapi Galwedigaethol Llesiant Gydol Oes, o fewn y tîm Brysbennu ac asesu, gan ddelio gyda'r cysylltiadau cyntaf posibl o ran atgyfeiriadau. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau asesu Therapi Galwedigaethol yn weithredol, gan weithio'n uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth, o bell ac yn eu cartrefi, i leihau risg a hyrwyddo annibyniaeth o'r pwynt cyswllt cyntaf gyda'r gwasanaethau cymdeithasol.
Byddwch yn meithrin perthnasau proffesiynol cynhyrchiol ac yn datblygu gwybodaeth fanwl am wasanaethau Ceredigion, gan sicrhau bod pobl yn derbyn cyngor, gwybodaeth a mynediad at wasanaethau priodol mewn modd amserol, gan wneud y gorau o ganlyniadau personol sy'n ystyrlon ac o ansawdd. Byddwch yn allweddol wrth gefnogi staff anghymwysedig ac wrth hyrwyddo arloesedd a newid cadarnhaol fel rhan o Dîm Ceredigion.
Tîm Therapi Galwedigaethol Llesiant Drwy Oes: Rydym yn frwdfrydig dros y gwasanaeth o safon sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yr ydym yn ei ddarparu i bobl yng Ngheredigion a'r safbwynt unigryw y mae ein galwedigaeth yn ei gynnig i'r sefydliad ehangach. Rydym yn credu bod gan bobl hawl i gyrraedd eu potensial llawn ym mhob cyfnod o'u bywydau.
Fel tîm, rydym yn falch o'n diwylliant cefnogol ac yn awyddus i rannu ein cryfderau, sgiliau proffesiynol, a'n gwybodaeth eang - yn ein gwasanaeth Therapi Galwedigaethol uniongyrchol a chyda'n cydweithwyr amlddisgyblaethol.
Fel Therapydd Galwedigaethol cymwys a phrofiadol, gallwch ddisgwyl derbyn goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd a chyfnodau penodol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ein nod yw grymuso unigolion i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth eu hunain, gan ddefnyddio adnoddau'n deg ac yn gyfrifol, yn unol â'n cyfrifoldebau proffesiynol a deddfwriaethol.
Mae gan ein tîm arbenigedd mewn:
• Addasiadau
• Dulliau ac offer codi a chario
• Asesiadau gweithredol
• Grymuso pobl sydd â chyflyrau hirdymor cymhleth
• Defnyddio dulliau cydadfer, adfer ac sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn
• Gweithio amlddisgyblaethol
• Adnabod ffyrdd arloesol o helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon
Fel Therapydd Galwedigaethol cymwys, byddwch yn hyderus yn eich sgiliau asesu clinigol; yn gallu egluro'r rhesymeg dros eich penderfyniadau. Byddwch yn hunanymwybodol yn broffesiynol, gan fod yn ymwybodol o'ch ffiniau o ran cymwyseddau. Byddwch yn awyddus i ddysgu ac i rannu eich gwybodaeth.
Yn bennaf, dylech fod yr un mor frwdfrydig ag yr ydym ni dros arloesi, gwaith tîm a darparu gwasanaeth o safon sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn gweithio fel tîm ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pob aelod.
Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd, cysylltwch i drafod y cyfle cyffrous hwn, neu ymgeisiwch nawr.
Mae'r Disgrifiad Swydd ar gyfer y rôl hon yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
Mae'r manteision sy'n gysylltiedig â'r swydd hon yn cynnwys; - Gweithio hybrid
- Amser hyblyg
- Grant ariannol dewisol hael i gefnogi'r ymgeisydd addas i symud i Geredigion
- Mynediad posibl i'r Cynllun Tai Fforddiadwy - Tai Gostyngiad ar Werth
Am ragor o wybodaeth, neu os hoffech drafod y cyfle hwn, cysylltwch â: Steven Elliott, Rheolwr tîm:
Steven.elliott@ceredigion.gov.uk Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy