Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Therapydd Galwedigaethol (37 awr yr wythnos) yn y Tîm Therapi Galwedigaethol Hirdymor (G08 £34,434 - £37,280 os newydd gymhwyso neu G09 £38,220 - £40,777 i ThG profiadol) y flwyddyn/ pro rata
Rydym yn awyddus i benodi Therapydd Galwedigaethol i rôl fydd yn rhoi cyfle i ehangu eich gyrfa mewn Gofal Cymdeithasol o fewn Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol sefydledig a chefnogol.
Mae'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn ymwneud â nifer o brosiectau i wella gwasanaethau i'n dinasyddion gan gynnwys gweithio integredig ar draws y system gyfan. Mae'r prosiectau a'r partneriaethau hyn ar draws Wrecsam o fudd i bob rhan o'r gymuned, felly mae'n amser cyffrous i ymuno â'r tîm a chyfrannu at lunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Byddwch chi'n gweithio gyda phlant ac oedolion â chyflyrau hirdymor neu anableddau.
Cyfrifoldebau
Bydd y Therapydd Galwedigaethol (G08/G09) yn gweithio gyda Therapyddion Galwedigaethol eraill, Aseswyr Gofal Cymdeithasol ac Ymgynghorwyr Symud a Thrin i gefnogi datblygiad gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ymatebol i ddinasyddion ag anghenion hirdymor. Gall hyn gynnwys gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr Gwaith Cymdeithasol i gynnig asesiad personol o anghenion gofal i sicrhau nad yw gofal wedi'i ragnodi'n ormodol na'i dan-ragnodi mewn cysylltiad â gallu swyddogaethol a thasgau symud a thrin; defnyddio offer i roi mwy o annibyniaeth a darparu addasiadau fel lifftiau ar risiau neu addasiadau mwy sylweddol fel estyniadau, i wella amgylchedd cartref y dinesydd ac i wella ymgysylltiad galwedigaethol. Gallwch fod yn gweithio gyda chydweithwyr Tai i gefnogi'r gwaith o baru tenantiaid â thai addas er mwyn gwneud y defnydd gorau o stoc dai yr awdurdod lleol.
Byddwch yn cael eich cefnogi a'ch goruchwylio gan dîm rheoli Therapyddion Galwedigaethol sydd wedi'i gofrestru gyda CPIG.
Bydd yr holl hyfforddiant yn cael ei ddarparu i sicrhau bod gennych y wybodaeth a'r sgiliau priodol ar gyfer y rôl. Bydd hyn yn cynnwys e-ddysgu, mentora a'r cyfleoedd i ymarfer yn fewnol (clinig cymunedol ac ystafell hyfforddi symud a thrin), ond hefyd mynediad i gyrsiau allanol megis; hyfforddiant addasiadau, cyfres o hyfforddiant symud a thrin o basbort i gyrsiau achrededig lefel uwch a chyrsiau eraill sy'n benodol i'ch maes gwaith.
Mae'r rôl hon yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau fel goruchwyliwr ac addysgwr ymarfer fel rhan o'ch pileri dilyniant gyrfa Coleg Brenhinol Therapyddion Galwedigaethol (RCOT). Mae cyfle i symud ymlaen trwy lwybr yn seiliedig ar bortffolio o Therapydd Galwedigaethol newydd gymhwyso (G08) i Therapydd Galwedigaethol profiadol (G10) yn y pen draw. Mae yna hefyd gyfle i gylchdroi o amgylch meysydd eraill o'r gwasanaeth i ddatblygu eich ymarfer proffesiynol ymhellach.
Pam gweithio gyda ni?
Mae'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol wedi'i leoli mewn Canolfan Lles fodern yng nghanol tref Wrecsam; mae'r lleoliad hwn ar y cyd yn caniatáu goruchwyliaeth a chymorth gan gymheiriaid, a dysgu dirprwyol. Mae'r proffesiwn Therapi Galwedigaethol yn cael ei werthfawrogi'n fawr o fewn CBSW ac mae cyfleoedd i symud ymlaen i rôl rheoli uwch.
Gall CBSW gynnig ffyrdd modern i chi o weithio gyda chyfuniad o weithio gartref, ar y safle gydag unigolion neu o gyfleusterau'r cyngor/a rennir. Mae gan CBSW Bolisi Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith a Gweithio Hyblyg ar waith sy'n caniatáu, gydag ymddiriedaeth a chydweithrediad ac yn unol ag anghenion y gwasanaeth, lawer o hyblygrwydd i aelodau'r tîm o ran sut maen nhw'n gweithio eu horiau contract, ac yn caniatáu ymreolaeth o ran sut mae eich amserlen wythnosol yn cael ei threfnu. Yn CBSW rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol. Pan fyddwch yn ymuno â'n gweithlu, gallwch edrych ymlaen at:
• Gyflog cychwynnol uwch i'r ymgeisydd cywir • Rheolwyr a grwpiau cyfoedion cefnogol • Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol • Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys gweithio hyblyg • Pensiwn Llywodraeth Leol • Cyfleoedd Hyfforddiant a Datblygu • Cynllun Cymorth i Weithwyr • Gostyngiadau a chynigion i staff • Cynllun Beicio i'r Gwaith • Rhaglenni dysgu Cymraeg • Mentrau lles yn y gweithle • Aelodaeth campfa am bris gostyngedig • Mynediad at Undeb Credyd
Mae angen gwiriad GDG Manwl a bydd angen i chi fod wedi'ch cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, ni waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.